Cofiwch gyflwyno'ch cais cyn gynted â phosibl gan ein bod yn cadw'r hawl i newid dyddiad cau'r cyfleoedd hyn os bydd nifer sylweddol o bobl â diddordeb yn y rolau.
Darllenwch y Canllawiau Ymgeisio ar y dudalen we cyn gwneud cais am rôl. Bydd lleoedd yn gyfyngedig a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis yn dilyn cyfweliad.
Rydym yn eich annog i ddarllen y disgrifiad llawn o rôl gwirfoddolwr cyn penderfynu a oes rôl sy'n addas i chi.
Nod y gwasanaeth y bydd y gwirfoddolwyr yn gwirfoddoliar ei gyfer yw cefnogi perthnasau, gofalwyr a ffrindiau yndilyn marwolaeth anwylyd.
Bydd gwirfoddolwyr yn gwneud galwadau ffôn i'r rhai mewn profedigaeth gan gynnig cefnogaeth, cyngor a chyfeirio at wasanaethau perthnasol yn y trydydd sector a gwasanaethau statudol yn ôl yr angen. Mae sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol.
Bydd angen i wirfoddolwyr fod ar gael am o leiaf 3 awr yr wythnos ddydd Llun, dydd Mawrth neu Dydd Mercher yn ystod oriau swyddfa ac yn gallu ymrwymo i o leiaf 6 mis o waith gwirfoddol gyda ni.
Bydd angen i chi fod dros 18 oed i wneud cais am y rolau hyn.
Darllenwch y rôl lawn cyn gwneud cais.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.