Diolch am eich ymateb gwych – mae’r ceisiadau bellach yn llawn ac wedi cau
Mae Gwirfoddolwyr Llais y Claf yn cefnogi’r gwaith parhaus ar draws y sefydliad i sicrhau bod lleisiau defnyddwyr gwasanaeth y Bwrdd Iechyd yn cael eu clywed. Maent yn gwneud hyn trwy dreulio amser yn cynnal arolygon adborth a luniwyd ymlaen llaw gyda'n defnyddwyr gwasanaeth a rhannu adborth cadarnhaol gyda'n staff. Ond mae mwy i'r rôl ac rydym yn eich annog i ddarllen y disgrifiad rôl gwirfoddolwr llawn cyn i chi benderfynu a yw'r rôl ar eich cyfer chi.
Disgrifiad rôl Gwirfoddolwr Llais y Claf.
Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i ddod yn Wirfoddolwr Llais y Claf.
Lleoliad: Ysbyty Athrofaol Cymru / Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Sylwch nad yw'r rôl hon yn cynnwys eiriolaeth na chwnsela.
Diolch am eich ymateb gwych – mae’r ceisiadau bellach yn llawn ac wedi cau. cymerwch olwg ar ein cyfleoedd eraill os oes gennych ddiddordeb o hyd mewn bod yn Wirfoddolwr yn y Bwrdd Iechyd.