Diolch am eich ymateb gwych – mae’r ceisiadau bellach yn llawn ac wedi cau.
Ydych chi dros 18 oed, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac yn gallu canolbwyntio’n dda ac aros yn ddigynnwrf mewn amgylchedd prysur?
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ddarparu cymorth anfeddygol i gleifion yn ein hadran achosion brys brysur. Bydd y rôl yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) bod yn “bwynt cyswllt” rhwng cleifion a staff, treulio amser gyda chleifion sydd ar eu pen eu hunain, lleoli cadeiriau olwyn i gleifion, a chefnogi tîm y Groes Goch Brydeinig gyda rhannu lluniaeth
I gael gwybod mwy lawrlwythwch ddisgrifiad rôl Gwirfoddolwr yr Uned Achosion Brys neu ffoniwch y tîm ar 02921 845692.
Yr hyn y mae ein cleifion a’n gwirfoddolwyr wedi’i ddweud
I gael rhagor o wybodaeth am y Yr Uned Achosion Brys ewch i'w tudalen we.