Neidio i'r prif gynnwy

Wroleg

Wroleg yw'r gangen feddygaeth sy'n ymdrin â rheolaeth lawfeddygol clefydau'r arennau a rheolaeth lawfeddygol a meddygol cyflyrau'r brostad ac wro-genhedlol gwrywaidd. Mae wrolegwyr hefyd yn ymdrin â phroblemau'r bledren mewn dynion a menywod.

Yr hyn a gynigiwn

Mae'r Adran Wroleg yn ymdrin â:·

  • Gwneud diagnosis o ganserau'r brostad, y bledren, y ceilliau, yr arennau a'r pidyn, a'u trin.
  • Triniaethau meddygol a llawfeddygol ar gyfer helaethiad anfalaen o'r brostad.
  • Triniaethau meddygol a llawfeddygol o gyflyrau'r bledren weithredol, gan gynnwys anymataliaeth mewn menywod.
  • Triniaeth ar gyfer clefyd cerrig y llwybr wrinol.
  • Niwrowroleg.
  • Rhwystr arennol, gan gynnwys methiant arennol rhwystrol.
  • Androleg, gan gynnwys anffrwythlondeb gwrywaidd ac anhawster codiad.

Mae'r gweithdrefnau arbenigol a gynhelir yn yr adran yn cynnwys:

  • Prostadectomi radicalaidd ar gyfer canser cynnar y brostad.
  • Systectomi ac adlunio'r bledren yn orthotopig ar gyfer canser y bledren.
  • Llawdriniaeth tiwmorau arennol sy'n cynnwys y vena cava isaf gan ddefnyddio dargyfeirio cardio-pwlmonaidd.
  • Llawdriniaeth retroperitoneal ar gyfer canser datblygedig y ceilliau.
  • Adlunio'r bledren ar gyfer pledren orweithredol niwropathig ac an-niwropathig.
  • Mewnblannu sffincter wrinol artiffisial.
  • Neffrectomi laparosgopig.
  • Lithotripsi siocdonnau ar gyfer clefyd cerrig y llwybr wrinol.
  • Wrodynameg. 

Clinig Cleifion Allanol

 

Sut i'n cyrraedd ni

Yr Adran Cleifion Allanol, Ystafell 18, Llawr Gwaelod Uchaf

  • O gyntedd y brif fynedfa, y llawr gwaelod isaf.
  • Dilynwch yr arwyddion ar gyfer wardiau a'r Adran Cleifion Allanol ar y llawr gwaelod (cerddwch i fyny'r grisiau neu teithiwch yn y lifft i'r llawr gwaelod). 
  • Cerddwch i lawr y coridor yn syth i'r Adran Cleifion Allanol, trowch i'r dde a dilynwch yr arwyddion ar gyfer ystafell 18. 
  • Cyflwynwch eich hun i'r derbynnydd wrth y ddesg. 

Derbyn Cleifion Mewnol

Mae cleifion fel arfer yn cael eu derbyn gyda chyflyrau sy'n gofyn am y canlynol:

  • Prostadectomi radicalaidd
  • Neffrectomi radicalaidd
  • Systectomi radicalaidd
  • Neffrectomi laparosgopig
  • Adlunio'r bledren
  • Dyraniad nod lymff retroperitoneal
  • Llawdriniaeth cerrig arennol drwy'r croen
  • Echdoriad trawswrethrol y brostad