Neidio i'r prif gynnwy

Ein Gwasanaethau Gofal Cartref

Pan fyddwch chi'n barod i gael eich rhyddhau, byddwch chi'n cael eich dyrannu i ddarparwr gofal cartref a fydd yn parhau i ddarparu'ch holl HPS ac offer o'r enw 'Ancils'. Bydd y darparwr y cewch eich dyrannu iddo yn cael ei bennu’n unigol yn seiliedig ar eich gofynion. 

Mae ein darparwyr gofal cartref i gyd yn cynnig llinellau cymorth 24 awr ar gyfer materion sy'n ymwneud â'ch HPS fel danfoniadau, bagiau wedi torri neu ymholiadau am offer. Os oes gennych oergell wedi torri neu broblem drydanol, dylech ffonio'ch darparwr ar frys. 

Mae ein holl ddarparwyr hefyd yn cynnig gwasanaeth nyrsio i'r rhai sy'n methu â gwneud eu triniaethau eu hunain neu nad oes ganddynt ofalwyr a all eu gwneud. Fodd bynnag, bydd annibyniaeth bob amser yn cael ei hannog a gellir parhau ag unrhyw hyfforddiant sydd ei angen gartref gyda'n nyrsys gofal cartref os nad ydych chi'n hollol barod i gael cadarnhad gan yr ysbyty i wneud hyn eich hun. Rydym yn deall y gallai fod adegau pan na fyddwch chi neu'ch gofalwr/gofalwyr yn gallu hwyluso eich triniaethau, boed hyn oherwydd salwch neu wyliau. Mae angen trafod hyn gyda'ch tîm IF cyn gynted â phosibl fel y gallant geisio trefnu cymorth addas ar gyfer eich anghenion.

Os oes gennych nyrsys yn dod i helpu gyda chysylltiadau, datgysylltiadau neu ofal llinell HPS, gwnewch yn siŵr eich bod gartref ar yr amseroedd y cytunwyd arnynt. Os na allwch fod yno, cysylltwch â'r darparwr gofal cartref ymlaen llaw i aildrefnu. 

Pan fyddwch chi gartref, byddwch yn derbyn eich ategolion (ancils) a'ch danfoniadau HPS yn wythnosol. Yn dibynnu ar gapasiti'r oergell a sefydlogrwydd eich presgripsiwn, gellir lleihau hyn i bob pythefnos. Caiff hyn ei bennu gan eich tîm adsefydlu coluddol a HPS. Gwnewch yn siŵr eich bod ar gael pan fydd danfoniadau i fod i gyrraedd neu trefnwch ffordd ddiogel arall iddynt gael eu derbyn.

Ar hyn o bryd mae gennym 3 darparwr gofal cartref rydyn ni'n eu defnyddio:-Calea, B-Braun a Lloyds Clinical.

Os hoffech chi wybod mwy am eich Darparwr a'r hyn maen nhw'n ei gynnig cliciwch ar y ddolen briodol isod:-

 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni