Neidio i'r prif gynnwy

Therapi'r Dwylo

Llaw mewn rhwymyn

Dyma wasanaeth dan arweiniad Therapi Galwedigaethol ar gyfer Therapi'r Dwylo i Gleifion Allanol, ac mae'n cefnogi ein pedwar Llawfeddyg y Dwylo. Mae gennym ddau safle therapi yng Nghanolfan Therapi Caerdydd a'r Fro (Gwasanaeth Trawma) ac yn Ysbyty Athrofaol Llandochau (Gwasanaeth Dewisol).

Mae ein tîm Therapi'r Dwylo yn cynnwys Therapyddion Galwedigaethol sydd wedi cael hyfforddiant ôl-raddedig, gan gynnwys cyrsiau achrededig Cymdeithas Therapyddion y Dwylo Prydain, ac maent yn arbenigo ar drin cyflyrau ac anafiadau i'r dwylo.

Ein rôl yw darparu addysg, creu sblintiau ac adsefydlu ein cleifion yn ystod llawdriniaeth / anaf i ddychwelyd i waith a hamdden, ynghyd â gweithgareddau bywyd bob dydd.  

Yn aml, bydd Therapydd y Dwylo (Therapi Galwedigaethol) yn gweithio ochr yn ochr â llawfeddygon, yn cynllunio ac yn gweithredu gofal ôl-driniaethol er mwyn i gleifion wella gorau gallant yn dilyn llawdriniaeth. Yn aml, bydd cleifion yn cael eu rhyddhau'n gynnar o ofal clinigau Meddygon Ymgynghorol i ofal y therapydd, a fydd yna'n cyfeirio'u triniaeth barhaus.

 

Mae gwefan Cadw Fi’n Iach wedi cael ei datblygu ar y cyd â thîm o arbenigwyr amlddisgyblaethol i sicrhau bod offer ac adnoddau ar gyfer hunanreoli, adsefydlu a gwella ar gael yn eang ac yn hygyrch i gleifion ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.
Dilynwch ni