Mae pelydr-X yn ddarlun o strwythurau mewnol y corff. Gwneir hyn trwy basio swm rheoledig o ymbelydredd trwy'r corff ac ymlaen i ffilm neu synhwyrydd digidol.
Ychydig bach o ymbelydredd y mae pelydrau-X diagnostig yn ei ddefnyddio.
Byddwch yn derbyn llythyr apwyntiad trwy'r post.
Os na allwch ddod i'ch apwyntiad am unrhyw reswm, rhowch wybod i'r adran pelydr-x ar unwaith.
Os ydych chi'n gymwys i gael cludiant i'r ysbyty, rhaid trefnu hyn gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar 0300 1000 012. Rhaid archebu o leiaf 48 awr cyn eich apwyntiad.
Gofynnwn ichi gyrraedd 10 munud cyn eich apwyntiad i ganiatáu amser ichi gofrestru eich presenoldeb yn y dderbynfa a newid ar gyfer y driniaeth os oes angen.
Radiograffydd neu Ymarferydd Cynorthwyol (AP) fydd yn cymryd eich pelydr-X.
Os cawsoch eich anfon gan eich meddyg teulu, bydd y canlyniadau ar gael gan y meddyg teulu tua 7 i 10 diwrnod o ddyddiad eich pelydr-X.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.