Croeso i'r gwasanaeth Podiatreg i gleifion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg
Mae gan yr adran podiatreg dros 45 o bodiatryddion gyda chefnogaeth sawl cynorthwyydd/ technegydd clinigol podiatreg a thîm o swyddogion clerigol.
Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau cleifion mewnol, cleifion allanol a chymunedol i oedolion a phlant gyda chyflyrau a phatholeg amrywiol sy'n effeithio ar y droed a'r goes. Darperir y gwasanaethau hyn ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Diffinnir podiatreg fel maes gofal iechyd sydd wedi'i neilltuo i astudio a thrin anhwylderau'r droed, y ffêr, y goes, y pen-glin, y glun a'r asgwrn cefn. Rôl y Podiatrydd yw cynnal a gwella hyfywedd meinwe, swyddogaeth loco-modur, lliniaru poen a lleihau effaith anabledd, cynyddu a chynnal symudedd ac annibyniaeth a hybu iechyd a llesiant i ystod eang o gleifion.
Mae podiatryddion yn weithwyr proffesiynol sy'n gyfrifol am:
Canolfan Rheoli Cleifion Podiatreg
Gwasanaethau Podiatreg
Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Ffordd Casnewydd
Caerdydd
CF24 0SZ
Oriau agor | |
---|---|
Dydd Llun i Ddydd Iau Dydd Gwener |
09:00 - 12:00 ac 13:30 - 16:00 09:00 - 12:00 yn unig |
Ymholiadau cyffredinol a threfnu apwyntiadau i gleifion presennol | 029 2033 5134 |
Galwadau cartref | 029 2033 5135 |
Swyddfa atgyfeirio cleifion newydd | 029 2033 5370 / Ffacs: 029 2033 5498 |