Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig Caerdydd a Bro Morgannwg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn rhan o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a sefydlwyd o dan ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.  Ei ddiben yw rheoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cydweithio gwell rhwng byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol, y trydydd sector, y sector annibynnol a chynrychiolwyr gofalwyr, a sicrhau gwasanaethau, gofal a chymorth effeithiol er mwyn bodloni anghenion ein poblogaeth orau.

Amcan y Bwrdd yw sicrhau bod cyrff partneriaeth yn cydweithio'n effeithiol i:

  • Ymateb i'r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a wnaed i adolygu anghenion gofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol ar draws y rhanbarth;
  • Sicrhau bod cyrff partneriaeth yn darparu digon o adnoddau ar gyfer trefniadau'r bartneriaeth; 
  • Hybu sefydlu cyllidebau cyfun, lle y bo'n briodol;
  • Rhoi blaenoriaeth i integreiddio gwasanaethau yn gysylltiedig â: 
    • Phobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia 
    • Gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc
    • Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd 
    • Plant ag anghenion cymhleth oherwydd anabledd neu salwch

I weld Cylch Gorchwyl ac Aelodaeth y Bwrdd, ewch i wefan y Bartneriaeth yn www.cvihsc.co.uk

I ddysgu rhagor am y gwaith a wneir, darllenwch Adroddiadau Blynyddol y Bwrdd:

Hefyd, gallwch glywed y partneriaid yn trafod integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ar YouTube.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bartneriaeth trwy e-bostio Hsc.Integration@wales.nhs.uk neu ffonio 029 2184 2150

Dilynwch ni ar Twitter a Facebook!

Eicon Facebook CVIHSCPartnership
Eicon Twitter @CV_ihscpship

 

 

Dewis Cymru

Mae adnodd cymunedol newydd o'r enw Dewis Cymru wedi'i ddatblygu i gynnig cyfarwyddiadur o wasanaethau ac adnoddau lleol. Bydd y cyfarwyddiadur yn galluogi pobl i gael at wybodaeth am wasanaethau awdurdodau lleol, byrddau iechyd, y trydydd sector a'r sector annibynnol yn hawdd.

Dilynwch ni