Mae'r Adran Wro-Gynaecoleg yn darparu gwasanaeth amlddisgyblaethol cynhwysfawr i fenywod.
Mae'r adran yn cael ei harwain gan ymgynghorwyr, ac mae cryn dipyn o waith ymchwil yn cael ei wneud gan staff meddygol a nyrsio. Mae staff nyrsio'n arwain clinigau astudiaethau wrodynamig, sy'n ceisio canfod mwy o wybodaeth am weithrediad y llwybr wrinol isaf er mwyn cynorthwyo â thriniaeth.
Mae'r adran Wro-Gynaecoleg yn rhoi asesiad clinigol i fenywod sydd ag amrywiaeth o gwynion neu gyflyrau a atgyfeiriwyd gan Obstetregydd neu feddyg teulu.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.