Mae gwelyau cleifion mewnol wedi'u lleoli ar Ward C1 yn Ysbyty Athrofaol Cymru wrth ymyl yr Uned Asesu Gynaecoleg Frys.
Mae 19 gwely llawfeddygol, 5 gwely brys a 3 gwely dydd.
Mae hyn yn cynnwys yr holl lawdriniaeth fawr a bach, gyda diddordeb arbennig mewn wro-gynaecoleg, endometriosis, derbyniadau brys, a llawdriniaeth frys.
Rydym hefyd yn darparu gofal a chymorth i fenywod a'u teuluoedd sy'n camesgor ac yn terfynu beichiogrwydd, gan weithio'n agos gyda'r Uned Asesu Beichiogrwydd Cynnar (EPAU) a Meddygaeth y Ffetws.
Atgyfeirir i'r clinigau hyn trwy eich meddyg teulu.