Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Erthyliad

Gwasanaeth Cynghori ar Feichiogrwydd (PAS) 

Erthyliad yw’r broses feddygol o ddod â beichiogrwydd i ben. Mae terfynu yn enw arall arno.Os ydych chi’n feichiog ac yn ystyried erthylu, dydych chi ddim ar eich pen eich hun.

Os ydych yn feichiog yn yr ardal Caerdydd a'r Fro ac yn ystyried triniaeth erthyliad, llenwch y ffurflen hon. 

Maer ffyrfloen atgyfeiro ar-lein hon ar gyfer pobl sy'n byw yn ardal Caerdyff a'r Fro.  Os ydych yn byw y tu allan i'r ardal hon, edrychwch ar y wefan hon am eich gwasanaethau lleol.

Os na allwch lenwi'r ffurflen, gallwch ein ffonio ni o hyd ar 029 2184 2638. Mae ein llinell ffôn yn aml yn brysur, felly byddwch yn amyneddgar a byddwn yn ateb cyn gynted â phosibl. Mae'r llinellau ar agor yn ystod oriau swyddfa. Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.

 
Nid ydych ar eich pen eich hun. Bydd 1 o bob 3 menyw yn y DU yn cael erthyliad erbyn iddynt fod yn 45 oed. Rydym yma i’ch cefnogi drwy’r broses. Edrychwch ar y wefan hon i gael rhagor o wybodaeth am eich opsiynau ar gyfer beichiogrwydd heb ei gynllunio. 

Rydym yn argymell profion STI ar-lein cyn i ni eich gweld, y gallwch eu trefnu yma

Os hoffech, rydym hefyd yn cynnig pob dull atal cenhedlu yn ein clinig. Edrychwch ar Dewisiadau Atal Cenhedlu i archwilio eich opsiynau. 

Os ydych yn ystyried cael neu wedi cael erthyliad, a hoffech gael mwy o gefnogaeth, ewch i wefan abortion talk

Dilynwch ni