Croeso i’r Adran Trallwyso Gwaed
Mae’r adran Trallwyso Gwaed yn cael ei rheoli gan y Gwasanaeth Haematoleg, gyda labordai yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) ac Ysbyty Athrofaol Llandochau (YAL).
Mae’r Labordai Trallwyso Gwaed ar y ddau safle yn cwblhau ystod eang o brofion i gynnwys dulliau awtomataidd a llaw ar gyfer grwpio gwaed, sgrinio ac adnabod gwrthgyrff, crowsmatsio, PCU (DCT) ac adnabod cotio a chnfod antigenau C, c, E, e ag K.
Mae technegau llaw, a berfformir yn YAC yn unig, yn cynnwys Kleihauer, canfod anitigen pellach a sgrin agglutinin oer.
Mae’r adrannau trallwyso gwaed yn cadw stoc o gydrannau gwaed fel celloed coch (gwaed), platennau, plasma ffres wedi’i rewi, a cryoprecipitate a chynhyrchion gwaed amrywiol fel albwminau, imiwnoglobwlinau, anti-D proffylactig, a chynhyrchion ceulo arbenigol.
Mae ein gwasanaethau’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gyflenwad gwaed a chydrannau/cynhyrchion gwaed yn fewnol (o fewn Caerdydd a’r Fro) i gynnwys ein Canolfan Trawma Mawr (CTM), Adran Achosion Brys (AAB), Unedau Gofal Dwys cyffredinol ac arbenigol (UThD, UThDC, UGDN), Meddygaeth, Imiwnoleg, Llawfyddygaeth, Haematoleg Glinigol, Oncoleg, Obsetreg a Phediatreg, gan gynnwys yr Ysbyty Plant Cymru.
Yn allanol, rydym yn cyflewni gwaed a chydrannau/cynhyrchion gwaed i; Ganolfan Ganser Felindre, Hosbis Marie Curie, Uned Dialysis Arennol B Braun. Ysbuty’r Barri a’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS)
Mae’r adran yn Labordy Meddygol sy wedi ei achredu gan UKAS, rhif: 8985.
Mae ein hacherdiad ISO 15189 wedi’i gyfyngu i’r gweithgareddau hynny a ddisgrifir ar ein hamserlen achredu o United Kingdom Accreditation Service (UKAS) (8985 Medical Multiple). Cynhelir yr achrediad hwn yn ystod ein hasesiad blynyddol gan UKAS.
Mae’r adran Trallwyso Gwaed hefyd wedi’i rheoleiddio i’r Rheoliadau Diogelwch Gwaed ac Ansawdd (BSQR) a Chanllawiau Arfer Da ar gyfer yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaeth a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA)