Mae microbioleg feddygol ddiagnostig ar gyfer Ysbytai Caerdydd yn cael ei darparu gan Microbioleg Caerdydd, sy'n rhan o Rwydwaith Labordy Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru.
Ein gwasanaethau
Rydym yn darparu'r ystod ganlynol o wasanaethau:
- gwasanaeth diagnostig microbioleg glinigol helaeth, gan gynnwys Bacterioleg, Mycoleg, Firoleg, Bioleg Foleciwlaidd, Seroleg, a Pharasitoleg i ysbytai a Meddygon Teulu ledled Caerdydd a'r Fro
- gwasanaeth rheoli heintiau clinigol, gan gynnwys stiwardiaeth wrthfiotig
- gwasanaethau rheoli heintiau a chyngor i BIP Caerdydd a'r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre
- gwasanaethau cyfeirio Cymru ar gyfer mycobacterioleg, firoleg, diagnosteg foleciwlaidd a chemotherapi gwrthficrobaidd: mae gwybodaeth i ddefnyddwyr ar gael drwy wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- gwasanaeth cyfeirio cenedlaethol yn y DU ar gyfer microbioleg anaerobig: mae gwybodaeth i ddefnyddwyr ar gael trwy wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru
- data epidemiolegol i Ganolfan Gwyliadwriaeth Clefydau Trosglwyddadwy (CDSC), a chefnogaeth i Ymgynghorwyr mewn Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy (CCDC) wrth ymchwilio i achosion o glefydau heintus
- gwasanaethau microbioleg amgylcheddol (gan gynnwys bwyd, llaeth a dŵr) i adrannau iechyd yr amgylchedd lleol
- mynediad cyflym i'r holl gyfleusterau labordy cyfeirio cenedlaethol trwy'r Asiantaeth Diogelu Iechyd (HPA).
Mae gan Microbioleg Caerdydd labordy meddygol achrededig UKAS 9510.
Cysylltwch â ni
Ffôn: 029 2074 4515
Y tu allan i oriau: 029 2074 7747
Ffacs: 029 2074 6403