Neidio i'r prif gynnwy

Cyfranogi

‘Cyfranogi’ yw ein dull o godi ymwybyddiaeth o ymchwil sy’n cael ei gynnal yn BIP Caerdydd a’r Fro, y gallech chi fel defnyddwyr gwasanaeth fod â diddordeb mewn cymryd rhan ynddo.

O bryd i’w gilydd, byddwch yn derbyn llythyr am ymchwil a allai fod o ddiddordeb i chi. Os rhannir y wybodaeth â chi, nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gymryd rhan. Chi sydd i benderfynu a ydych yn dymuno cymryd rhan mewn ymchwil ac a ydych am dderbyn gwybodaeth am wahanol gyfleoedd.

 

Pam fod Ymchwil yn Bwysig?

Gall ymchwil ein helpu i ddeall achosion iechyd meddwl yn well a’n helpu i wella triniaethau, gofal ac ymyriadau a ddarperir o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yn y DU ac yn rhyngwladol.

Efallai na fydd cymryd rhan mewn ymchwil yn arwain at fuddion ar unwaith. Fodd bynnag, gallwch ddod yn rhan o gymuned ymchwil ehangach gan helpu i wneud pethau’n well yn y dyfodol i lawer o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl.

Hoffem gynnig y cyfle i bawb sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl gofal eilaidd i glywed am ymchwil sy’n digwydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

 

Beth ddylwn i ei wneud os nad ydw i eisiau Cyfranogi?

Os nad ydych eisiau clywed am gyfleoedd ymchwil, mae’n hawdd rhoi gwybod i’r tîm ‘Cyfranogi’. Gallwch wneud hyn drwy un o’r opsiynau canlynol;              

  • Cwblhau’r ffurflen optio allan ar-lein
  • Cysylltu â’r tîm Cyfranogi dros y ffôn neu drwy e-bost participate.cav@wales.nhs.uk
  • Dweud wrth aelod o’ch tîm gofal

 

Dilynwch ni