Mae’r Pride in Veterans Standard (PiVS) wedi’i sefydlu gan Fighting with Pride (FWP). Mae FWP yn cefnogi iechyd a lles Cyn-filwyr LHDT+, personél y lluoedd arfog a’u teuluoedd – yn enwedig y rhai y gwnaeth y gwaharddiad ar bersonél LHDT+ rhag gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog cyn Ionawr 2000 effeithio arnynt.
Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i’r safon hon ac i wneud y canlynol:
- Gosod y safonau uchaf ar gyfer cynnwys pobl LHDT+ yn BIPCAF.
- Meddu ar ddealltwriaeth o “waharddiad y Lluoedd Arfog ar bobl hoyw” a’i effaith ar y bobl dan sylw.
- Darparu’r cymorth gorau posibl i Gyn-filwyr LHDT+, personél sy’n gwasanaethu a’u teuluoedd.
- Yn cyd-fynd â chenhadaeth FWPs i sicrhau bod Cyn-filwyr LHDT+, personél sy’n gwasanaethu a’u teuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn o fewn Cyfamod y Lluoedd Arfog - ymrwymiad y Genedl i Gyn-filwyr.