Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau'r Lluoedd Arfog

Er mwyn i ni allu darparu’r gofal gorau mae angen i ni wybod a ydych yn rhan o Gymuned y Lluoedd Arfog (Rheolaidd, Milwr Wrth Gefn, Cyn-filwr, Priod neu blentyn i aelod sy’n gwasanaethu). Dywedwch wrth aelod o staff pan fyddwch yn dod i'r ysbyty er mwyn i ni allu casglu'r wybodaeth hon a sicrhau eich bod ar y llwybr cywir.

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl bod y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.

Mae BIPCAF wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod cyn-filwyr a chymuned y lluoedd arfog yn cael mynediad teg at y gofal iechyd gorau posibl a bod eu hanghenion corfforol, meddyliol a chymdeithasol yn cael eu deall a’u diwallu’n iawn.

Dilynwch ni