Neidio i'r prif gynnwy

GIG Cymru i Gyn-filwyr

Mae effaith andwyol bosibl gwasanaeth milwrol gweithredol ar iechyd a lles wedi’i chydnabod ers tro, ac mae cyn-filwyr yn aml yn cyfeirio at symptomau corfforol a seicolegol. Mae pryderon ynghylch yr effaith niweidiol ar iechyd a lles ymhlith cyn-filwyr wedi cael cryn sylw yn ddiweddar oherwydd y galwadau gwasanaeth presennol sydd ar bersonél milwrol.

Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn cynnig gwasanaeth arbenigol â blaenoriaeth i unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ar unrhyw adeg yn eu bywydau ac sy’n profi anawsterau iechyd meddwl sy’n ymwneud yn benodol â’u gwasanaeth milwrol. I hunangyfeirio ewch i: Ffurflen Atgyfeirio Cyn-filwyr - Cyn-filwyr Cymru

Dilynwch ni