Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Dadebru

Tîm bychan a dynamig yw'r Gwasanaeth Dadebru sy'n darparu hyfforddiant, arbenigedd a chyngor i'r Bwrdd Iechyd cyfan gan gynnwys Ysbytai Athrofaol Cymru a Llandochau, Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, Ysbyty'r Eglwys Newydd, Ysbyty Dewi Sant, Ysbyty Rookwood, Ysbyty Cymunedol y Barri, Ysbyty Brenhinol Caerdydd a'r Adain Orllewinol.

Mae'r Gwasanaeth Dadebru'n gyfrifol am drefnu, gweithredu a gwerthuso anghenion staff y Bwrdd Iechyd, gan ddarparu hyfforddiant mewn triniaeth cynnal bywyd sylfaenol ac uwch mewn oedolion a phaediatreg. Cefnogwn brosiectau dadebru yn y gymuned.

Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth yn cymryd rhan ym mhrosiect y Fenter Claf Mwy Diogel i'r Bwrdd Iechyd, gan ddarparu addysg i staff i adnabod y claf sy'n ddifrifol wael.

Cynigiwn nifer o gyrsiau, a rheini'n fewnol ac yn allanol. 

 


Cyswllt 

Y Gwasanaeth Dadebru
Y Llawr Gwaelod Uchaf
Jubilee Courtyard
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW

Ffôn: 029 2074 8297

Dilynwch ni