Neidio i'r prif gynnwy

Atgyfeiriadau i'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig

Sut alla i atgyfeirio? 

Rydym yn derbyn hunanatgyfeiriadau ac atgyfeiriadau gan bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (gyda chaniatâd y person) ar gyfer asesiadau diagnostig a chymorth os oes gan rywun ddiagnosis. 

Cwblhewch y ffurflen atgyfeirio a'i hanfon atom ni. 

I'r rhai sydd eisoes wedi cael diagnosis rydym yn derbyn hunanatgyfeiriadau, atgyfeiriadau gan rieni a gofalwyr ac atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol. Byddwn yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch diagnosis, yn ddelfrydol adroddiad diagnostig. Gellir gwneud atgyfeiriadau drwy e-bost ar cav.ias@wales.nhs.uk, dros y ffôn ar 07970 647 820, neu yn ysgrifenedig. Anfonwch e-bost atom os hoffech i ni anfon ffurflen atgyfeirio atoch i gael cymorth.  

Beth alla i ddisgwyl ar ôl atgyfeiriad? 

Asesiadau diagnostig: Pan fyddwn wedi derbyn eich atgyfeiriad, byddwn yn ei brosesu ac yna byddwn yn ysgrifennu atoch gyda gwybodaeth am y broses a gofynnir i chi optio i mewn. Mae angen i chi roi gwybod i ni eich bod am fwrw ymlaen. O fis Medi 2022 ymlaen, gwahoddir pob atgyfeiriad newydd ar gyfer asesiad i apwyntiad brysbennu.  
  • Cyn cael cynnig apwyntiad brysbennu, gofynnir i chi ddychwelyd holiadur.  

  • Yna cewch eich gweld yn y clinig brysbennu gan ddau glinigwr profiadol a fydd yn penderfynu a nodir asesiad diagnostig llawn o awtistiaeth.  

  • Os nodir asesiad pellach, cewch eich ychwanegu at y rhestr aros am asesiad diagnostig llawn.  

  • Os na nodir asesiad pellach, cewch eich rhyddhau o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'ch cyfeirio at wasanaethau neu adnoddau eraill, yn ôl yr angen.  

Noder, bydd y clinig brysbennu yn cynnig mynediad cyflym i'r gwasanaeth; fodd bynnag, os bydd angen asesiad pellach ar unigolion, mae'n debygol y bydd yr amser aros yn fwy na 36 mis ar hyn o bryd.  

Atgyfeiriadau eraill: Os yw'n briodol, cynigir apwyntiad cychwynnol i chi gydag aelod o'n tîm a fydd yn trafod pa gymorth sydd ar gael. Efallai mai canlyniad yr apwyntiad hwnnw fydd y byddwn yn cynnig cymorth grŵp i chi, yn eich cyfeirio at wasanaethau eraill, neu'n cynnig rhywfaint o gymorth unigol i chi. 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni