Mae'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS) yn darparu cymorth wedi'i deilwra ar gyfer oedolion awtistig a'u rhwydwaith cymorth.
Rydym yn defnyddio dull gofal fesul cam:
I rai, gall gwybodaeth a chyngor dros y ffôn neu e-bost ddiwallu eu hanghenion.
I eraill, efallai y bydd apwyntiad unigol yn briodol.
Os ydych chi'n awtistig, yn rhiant/gofalwr i oedolyn awtistig, neu'n weithiwr proffesiynol ac yr hoffech atgyfeirio am gymorth, cwblhewch y Ffurflen Atgyfeirio hon a'i dychwelyd atom drwy e-bost.
Cynhelir apwyntiadau yn ein canolfan ym Mhenarth, ar-lein, neu dros y ffôn. Yn ystod yr apwyntiad cychwynnol, byddwn yn archwilio anghenion y person. Mae canlyniadau posibl yn cynnwys:
Argymhellion i wasanaethau eraill
Cymorth i gysylltu â gwasanaethau eraill
Mynediad i grwpiau neu weithdai IAS
Cymorth cyfyngedig o ran amser, sy'n canolbwyntio ar nodau
Nid yw'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn cael ei ariannu i ddarparu'r holl gymorth parhaus i oedolion awtistig. Rydym yn rhoi cymorth yn benodol i’r rhai nad ydynt yn bodloni meini prawf ar gyfer gwasanaethau eraill (e.e. gwasanaethau iechyd meddwl neu anabledd dysgu). Lle mae rhywun eisoes yn cael ei gefnogi gan wasanaeth arall, gall y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig gynnig ymgynghoriad a chydweithio lle bo'n briodol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch a yw atgyfeiriad yn addas, rydym yn hapus i drafod hyn. Cysylltwch â ni yn cav.ias@wales.nhs.uk.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.