Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a’r Fro yn wasanaeth awtistiaeth arbenigol amlasiantaeth o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Fel rhan o’n gwasanaeth cymorth rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai a grwpiau i oedolion awtistig sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnig gweithdai a grwpiau i rieni a/neu ofalwyr oedolion awtistig.
Ceir rhagor o fanylion am ein grwpiau a'n gweithdai yn y llyfryn hwn.