Mae awtistiaeth yn gyflwr datblygiadol gydol oes sy'n effeithio ar y ffordd y mae pobl yn deall ac yn rhyngweithio â'r byd o'u cwmpas. Cyfeirir ato fel cyflwr sbectrwm oherwydd yr amrywiaeth eang o gyflwyniadau a welir mewn unigolion awtistig; er enghraifft, gall rhai pobl fod ag anabledd dysgu sy'n cyd-ddigwydd. Fodd bynnag, bydd pawb sy'n cael eu hystyried yn awtistig yn rhannu anawsterau cyffredin, er y gall yr anawsterau hyn effeithio arnynt mewn ffyrdd gwahanol. Yn fras, bydd pobl ag awtistiaeth yn cael anawsterau yn y meysydd canlynol: rhyngweithio cymdeithasol, cyfathrebu cymdeithasol, ac arferion, ymddygiadau ailadroddus a diddordebau dwys.
Er mwyn cael diagnosis o awtistiaeth, mae ar bobl angen cael asesiad gan weithwyr proffesiynol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol ar asesu ar gyfer awtistiaeth. Fel arfer, mae'r asesiadau'n cynnwys hanes manwl, arsylwadau a chasglu gwybodaeth gan un neu fwy o bobl sy'n adnabod y sawl sy'n cael ei asesu (e.e. rhiant). Mae llawer o bobl yn cael diagnosis o awtistiaeth yn ystod plentyndod, ond mae mwy o bobl yn ceisio asesiadau fel oedolion, yn rhannol oherwydd bod mwy o ymwybyddiaeth o'r sbectrwm awtistiaeth.
Os ydych chi'n ystyried atgyfeirio'ch hunan i gael asesiad diagnostig o awtistiaeth, neu os ydych chi'n weithiwr proffesiynol sy'n ystyried atgyfeirio ar ran rhywun, darllenwch y wybodaeth ganlynol. Mae'r wybodaeth yn dweud wrthych am feini prawf diagnostig awtistiaeth a'r broses asesu.
Meini prawf diagnostig:
Rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu cymdeithasol |
Ymddygiadau, diddordebau neu weithgareddau cyfyngedig ac ailadroddus |
Anawsterau creu a/neu gynnal perthnasoedd |
Canolbwyntio'n fanwl fanwl, diddordebau sy'n cymryd drosodd |
Anawsterau deall a rheoli emosiynau |
Cadw'n ormodol at arferion, i raddau anghyffredin |
Problemau deall sut mae pobl eraill yn meddwl neu'n teimlo |
Meddylfryd anhyblyg (meddwl yn ddu a gwyn) |
Anawsterau deall rheolau cymdeithasol |
Anawsterau ymdopi â newid |
Lleferydd anarferol |
Ymddygiad neu arferion ailadroddus |
Lleferydd ailadroddus |
Cadw'n gaeth at reolau |
Anawsterau cynnal cyswllt llygaid |
Symudiadau ailadroddus neu ystrydebol |
Llai o fynegiant yr wyneb neu ystumio |
Gorsensitifrwydd neu dansensitifrwydd i agweddau synhwyraidd ar yr amgylchedd |
Anawsterau cyfathrebu ag eraill |
Sylwi ar fân fanylion, patrymau neu seiniau nad yw pobl eraill yn sylwi arnynt |
Problemau deall, fel cymryd pethau'n rhy llythrennol |
|
Anawsterau gallu darllen cyfathrebu dieiriau pobl eraill |
|
Os hoffech wneud cais am asesiad awtistiaeth ar ôl darllen y wybodaeth hon, llenwch y ffurflen atgyfeirio hon gan roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch, a'i dychwelyd i'r Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth. Os oes angen help arnoch i lenwi'r ffurflen, rhowch wybod i ni. I weithwyr proffesiynol sy'n ystyried atgyfeirio i'r Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth, cyfeiriwch hefyd at ein llwybr diagnostig i gael rhagor o wybodaeth.