Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud Diagnosis o FH

Meini Prawf Simon Broome

Mae Diagnosis Clinigol o Hypercholesterolaemia Teuluol yn cael ei wneud gan ddefnyddio meini prawf Simon Broome, sydd wedi'u seilio ar:


Mae diagnosis o FH pendant yn gofyn am:

Golesterol uwch na 7.5mmol/l neu golesterol LDL uwch na 4.9 mmol/l mewn oedolyn. Colesterol uwch na 6.7mmol/l neu golesterol LDL uwch na 4 mmol/l mewn plentyn iau nag 16 oed.

YN OGYSTAL Â

Tendon xanthomas mewn claf neu berthynas gradd 1af (rhiant, brawd neu chwaer, plentyn), neu mewn perthynas 2il radd (mam-gu neu dad-cu, ewythr, modryb).

NEU

Tystiolaeth DNA o fwtaniad derbynnydd LDL, apoB-100 diffygiol yn y teulu, neu fwtaniad PCSK9.
 


Mae diagnosis o FH posibl yn gofyn am:


Golesterol uwch na 7.5mmol/l neu golesterol LDL uwch na 4.9 mmol/l mewn oedolyn.

Colesterol uwch na 6.7mmol/l neu golesterol LDL uwch na 4 mmol/l mewn plentyn iau nag 16 oed.

YN OGYSTAL Â

Hanes teuluol o gnawdychiad myocardiaidd (MI): Cyn 50 oed mewn perthynas 2il radd neu iau na 60 oed mewn perthynas gradd 1af.

NEU

Hanes teuluol o gyfanswm colesterol uwch: Uwchlaw 7.5mmol/l mewn perthynas gradd 1af neu 2il radd sy'n oedolyn, neu uwchlaw 6.7mmol/l mewn plentyn neu frawd neu chwaer sy'n iau nag 16 oed.
 


Sylwer: Dylid defnyddio'r lefelau colesterol/colesterol LDL a gofnodwyd cyn dechrau cymryd unrhyw feddyginiaeth sy'n lleihau colesterol. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid defnyddio'r lefel uchaf a gofnodwyd wrth gael triniaeth.

 

 

Dilynwch ni