Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Gwella Clwyfau Cymunedol

Yn y gymuned, penodwyd y Nyrs Arbenigol Glinigol Gymunedol gyntaf yn y maes Gwella Clwyfau yn 2000. Yn ogystal â'u baich achosion cyfredol o gleifion sy'n gaeth i'r tŷ a chleifion Cartrefi Nyrsio sydd â chlwyfau, maent wedi datblygu pum Clinig Gwella Clwyfau Cymunedol a arweinir gan Nyrsys er mwyn gwella ac ychwanegu at raglenni trin presennol a gynigir gan ymarferwyr cymunedol.

Fel tîm cymunedol, maent yn darparu:

  • Cyngor i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar faterion gofal clwyfau.
  • Asesiadau cyfannol a chynlluniau gofal unigol i gleifion yn y pum clinig gwella clwyfau cymunedol a arweinir gan nyrsys. 
  • Gofal parhaus yn eu clinigau briwiau coes sydd wedi gwella a gynhelir gan eu Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd.
  • Ymweliadau cartref ar gyfer cleifion sy'n gaeth i'r tŷ a chleifion cartrefi nyrsio.


Clinigau'r Tîm Gwella Clwyfau

Lleoliad Sesiynau
Clinig Parkview 

Dydd Llun (9.00 - 12.00)

**Cleifion newydd yn unig ar ddydd Llun**          

Dydd Iau (9.00 - 16.30)
Canolfan Gofal Sylfaenol Tredelerch Dydd Llun (14.00 - 16.30)
Clinig Rhiwbeina

Dydd Mawrth (14.00 - 16.30)
Dydd Gwener (14.00 - 16.30)

Clinig Broad Street

Dydd Mawrth (14.00 - 16.30) 
Dydd Mercher (14.00 - 16.30)

Clinig Butetown Dydd Mercher (9.00 - 12.00)


Clinigau Clwyfau sydd wedi Gwella

Lleoliad Sesiynau
Canolfan Gofal Sylfaenol Tredelerch

Dydd Llun 1af y mis
(14.00 - 16.00)

Clinig Parkview Bob yn ail ddydd Gwener
Clinig Rhiwbeina 

Bob yn ail ddydd Iau 
Prynhawn Llun

Clinig Broad Street  Bob yn ail ddydd Mawrth

Mae'r mathau o glwyfau sy'n cael eu hatgyfeirio yn cynnwys:

  • Pob briw pwyso categori 3 a 4 (Gorfodol)
  • Clwyfau ffyngaidd neu falaen lle nad yw'r symptomau'n cael eu rheoli'n ddigonol 
  • Cleifion sydd â chlwyfau llawfeddygol sy'n gwrthod gwella neu sy'n gwaethygu
  • Cleifion sydd â chlwyfau sy'n gwaethygu neu a ddaw'n statig ac sydd heb ymateb i driniaeth briodol
  • Pothelli gwaed
  • Cleifion a ryddhawyd i fynd adref gyda Phwysedd Negyddol Argroenol nad ydynt yn cael eu hadolygu yn yr adran cleifion allanol
  • Cleifion â symptomau h.y. poen neu archwysiad lle mae'n anodd eu rheoli neu lle nad ydynt yn ymateb i gynlluniau trin cyfredol
  • Briwiau coes sydd heb ymateb i driniaeth briodol ar ôl pedair wythnos neu lle nad oes achoseg wedi'i chadarnhau 

I wella parhad gofal a sicrhau bod triniaeth effeithiol yn cael ei chynnig i'r claf gan y gweithiwr proffesiynol priodol, datblygwyd system gadarn o feini prawf atgyfeirio rhwng gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol. Ar sail achoseg a difrifoldeb clwyfau sy'n gysylltiedig â Chanllawiau Cenedlaethol a Rhyngwladol, mae'r system hon yn ceisio cynnig system atgyfeirio ddi-dor sy'n hygyrch i gleifion ac sy'n sicrhau ymyriad mewn pryd.

Bu hyn yn benodol o effeithiol i gleifion sy'n cael eu hatgyfeirio i'r Adran am fod ganddynt broblemau fasgwlaidd a chymhleth eraill y mae angen ymyriad arbenigol arnynt. Yn sgil cyfraniad arbenigol WHRU, gellir defnyddio adnoddau'n effeithiol a chwtogi ar atgyfeiriadau dianghenraid i'r gwasanaethau fasgwlaidd sydd wedi'u gorlethu.

Bu'r system atgyfeirio hon yn llwyddiannus hefyd i gleifion ag wlseriad gwythiennol nad yw'n gymhleth a fyddai, cyn y Clinigau Clwyfau Cymunedol a Arweinir gan Nyrsys, wedi cael gofal yng nghlinig cleifion allanol WHRU ac sy'n cael eu hatgyfeirio'n ôl i'r gymuned o dan ofal y Nyrsys Arbenigol Clinigol.