Neidio i'r prif gynnwy

Arloesi Clinigol

Mae gan WHRU enw da rhyngwladol am gyflenwi treialon clinigol o'r radd flaenaf ac mae'n parhau ymhlith y canolfannau mwyaf blaenllaw yn y DU. Mae gan WHRU y gallu hefyd i reoli prosiectau gwerthusiadau clinigol ac, ar hyn o bryd, mae'n darparu'r gwasanaeth hwn i nifer o gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol, canolig a chychwynnol.

Cynhelir treialon clinigol ar gleifion sy'n cael eu hatgyfeirio i WHRU gan dîm o nyrsys ymchwil profiadol o dan gyfarwyddyd y Prif Ymchwilydd.

Cynhelir yr holl dreialon o dan ganllawiau cydnabyddedig Arfer Clinigol Da (GCP) a'r Cyngor Rhyngwladol ar Gysoni (ICH). Mae hyn yn sicrhau bod yr holl staff yn cadw at egwyddorion cyfrinachol, moesegol a diogel caeth sy'n rhoi hollol ffydd i'r claf wrth ymuno â threial. Dim ond nifer fechan o gleifion sy'n cael eu hatgyfeirio i'r Adran a fydd yn cymryd rhan mewn treialon clinigol a byddant yn gwneud hynny'n gwbl wirfoddol.

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y rhaglen hon o dreialon clinigol am fod arferion gofalu am glwyfau, oherwydd canfyddiadau ymchwil, wedi newid yn aruthrol yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf. Mae'r potensial i'r math hwn o ymchwil wella canlyniadau cleifion yn amlwg yn yr amrywiaeth o ddeunyddiau gorchudd sydd ar gael bellach ar y Tariff Cyffuriau (FP10).