Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Cleifion Mewnol

Mewn partneriaeth â'r Uned Ymchwil i Wella Clwyfau (WHRU), penodwyd y Nyrs Arbenigol Glinigol gyntaf mewn Gwella Clwyfau ym 1998 yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gyda phenodiad pellach yn Ysbyty Llandochau ym 1999. Ar hyn o bryd, cyflogir y ddwy Nyrs Arbenigol Glinigol i gleifion mewnol gan BIP Caerdydd a'r Fro. Prif flaenoriaeth y Nyrsys Arbenigol Clinigol hyn yw cynnal Polisi'r BIP ar gyfer Atal a Thrin Briwiau Pwyso a rheoli'r holl gleifion mewnol sy'n cael eu hatgyfeirio i'r Athro Harding.

Yn rhan o Bolisi'r BIP ar gyfer Atal a Thrin Briwiau Pwyso, cyflwynwyd contract cynhwysol rhwng gweithgynhyrchwyr gwelyau a'r GIG ym 1999. Datblygwyd y fenter hon o ganlyniad i gydweithredu rhwng y BIP ac WHRU. Mae'r bartneriaeth hon yn arddangos yn glir fuddion cymorth arbenigol i'r BIP ac enillodd Wobr Ansawdd y Cadeirydd yn 2003 ac yn ddiweddarach wobr glodfawr Health Service Journal ym mis Medi 2003.

Mae atgyfeiriadau i'r gwasanaeth Cleifion Mewnol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Llandochau a phedwar ysbyty arall pellach yn parhau i dyfu, a phobl yn ceisio cyngor ar bob math o glwyfau. Ar hyn o bryd, mae'r Nyrsys Arbenigol Clinigol yn ymweld â chleifion ward bob dydd o ddydd Llun i ddydd Iau.

Derbynnir atgyfeiriadau ar system agored a gellir eu gwneud drwy ffôn ateb, galwr radio neu e-bost. 

Ymhlith y mathau o glwyfau sy'n cael eu hatgyfeirio mae:

  • Pob briw pwyso categori 3 a 4 (Gorfodol)
  • Clwyfau llawfeddygol cymhleth sy'n ymagor
  • Clwyfau elifiad dwfn
  • Clwyfau sy'n gwrthod gwella
  • Clwyfau Mamolaeth/Pediatrig
  • Llid yr isgroen
  • Pothelli gwaed
  • Wlseriad coes heintiedig

Mae staff WHRU yn cynnal perthynas waith agos â'r holl Nyrsys Arbenigol Clinigol mewn Gofal Clwyfau drwy gyfarfodydd rheolaidd fel y Cyfarfod Diogelwch ac Ansawdd, y Cyfarfod Gwella Clwyfau a Chyfarfod y Grŵp Cynghori Proffesiynol.