Yn y gymuned, penodwyd y Nyrs Arbenigol Glinigol Gymunedol gyntaf yn y maes Gwella Clwyfau yn 2000. Yn ogystal â'u baich achosion cyfredol o gleifion sy'n gaeth i'r tŷ a chleifion Cartrefi Nyrsio sydd â chlwyfau, maent wedi datblygu pum Clinig Gwella Clwyfau Cymunedol a arweinir gan Nyrsys er mwyn gwella ac ychwanegu at raglenni trin presennol a gynigir gan ymarferwyr cymunedol.
Fel tîm cymunedol, maent yn darparu:
Lleoliad | Sesiynau |
---|---|
Clinig Parkview |
Dydd Llun (9.00 - 12.00) **Cleifion newydd yn unig ar ddydd Llun** Dydd Iau (9.00 - 16.30) |
Canolfan Gofal Sylfaenol Tredelerch | Dydd Llun (14.00 - 16.30) |
Clinig Rhiwbeina |
Dydd Mawrth (14.00 - 16.30) |
Clinig Broad Street |
Dydd Mawrth (14.00 - 16.30) |
Clinig Butetown | Dydd Mercher (9.00 - 12.00) |
Lleoliad | Sesiynau |
---|---|
Canolfan Gofal Sylfaenol Tredelerch |
Dydd Llun 1af y mis |
Clinig Parkview | Bob yn ail ddydd Gwener |
Clinig Rhiwbeina |
Bob yn ail ddydd Iau |
Clinig Broad Street | Bob yn ail ddydd Mawrth |
Mae'r mathau o glwyfau sy'n cael eu hatgyfeirio yn cynnwys:
I wella parhad gofal a sicrhau bod triniaeth effeithiol yn cael ei chynnig i'r claf gan y gweithiwr proffesiynol priodol, datblygwyd system gadarn o feini prawf atgyfeirio rhwng gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol. Ar sail achoseg a difrifoldeb clwyfau sy'n gysylltiedig â Chanllawiau Cenedlaethol a Rhyngwladol, mae'r system hon yn ceisio cynnig system atgyfeirio ddi-dor sy'n hygyrch i gleifion ac sy'n sicrhau ymyriad mewn pryd.
Bu hyn yn benodol o effeithiol i gleifion sy'n cael eu hatgyfeirio i'r Adran am fod ganddynt broblemau fasgwlaidd a chymhleth eraill y mae angen ymyriad arbenigol arnynt. Yn sgil cyfraniad arbenigol WHRU, gellir defnyddio adnoddau'n effeithiol a chwtogi ar atgyfeiriadau dianghenraid i'r gwasanaethau fasgwlaidd sydd wedi'u gorlethu.
Bu'r system atgyfeirio hon yn llwyddiannus hefyd i gleifion ag wlseriad gwythiennol nad yw'n gymhleth a fyddai, cyn y Clinigau Clwyfau Cymunedol a Arweinir gan Nyrsys, wedi cael gofal yng nghlinig cleifion allanol WHRU ac sy'n cael eu hatgyfeirio'n ôl i'r gymuned o dan ofal y Nyrsys Arbenigol Clinigol.