Mae'r cyfleusterau gwella clwyfau gystal â'r cyfleusterau masnachol gorau o'r math hwn sydd ar gael ac maent yn cynnwys:
Oherwydd lleoliad yr Uned Ymchwil i Wella Clwyfau (WHRU) ym Mhrifysgol Caerdydd, ac oherwydd ei pherthynas agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a'r Fro, mae modd cael at gyfleusterau arbenigol:
Rydym yn helpu darparwyr gwasanaeth a chwmnïau gofal clwyfau i werthuso eu cynhyrchion, dyfeisiau a gwasanaethau meddyginiaethol cyfredol ac, os yw'n briodol, cyflwyno cynhyrchion, dyfeisiau, modelau a thechnegau meddyginiaethol newydd. Gwasgarir cymwysiadau masnachol ar draws dau sector:
Mae gennym dros 25 mlynedd o brofiad o ymchwil yn y maes gwella clwyfau a gallwn roi cymorth wedi'i neilltuo i ddatblygu dogfennaeth sy'n berthynol i astudiaeth, a gweithdrefnau rheoleiddio yn y DU.
Rydym wedi magu enw da byd-eang yn gyfleuster clinigol dibynadwy a sicr. Fe'n harchwiliwyd yn llwyddiannus gan yr FDA (Asiantaeth Bwyd a Chyffuriau'r Unol Daleithiau) a'r MDA (yr Asiantaeth Dyfeisiau Meddygaeth).