Os oes gennych ddeintydd arferol a'ch bod yn dioddef poen yn y dannedd, dylech gysylltu â'ch deintydd yn y lle cyntaf. Dylai fod gan bob deintydd y capasiti ar gyfer argyfyngau ac os na, byddant yn eich cyfeirio at y Llinell Gymorth Ddeintyddol Frys sydd ar gael gyda'r nos, ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
Mae argyfwng deintyddol yn golygu bod angen cymorth brys arnoch ar gyfer problem ddifrifol yn eich ceg.
Gallai hyn gael ei achosi gan bethau fel haint neu anaf deintyddol.
Mae problemau deintyddol brys cyffredin yn cynnwys:
Os ydych wedi cofrestru gyda deintydd y GIG, cysylltwch â’ch practis deintyddol yn uniongyrchol am apwyntiad brys.
Os nad ydych wedi cofrestru gyda deintydd GIG, ewch i wefan GIG 111 Cymru i gael rhagor o wybodaeth, neu ffoniwch CAF 24/7 ar 0300 10 20 247.
Byddwch yn cael eich brysbennu gan aelod o'r tîm gofal sylfaenol.Byddwch yn derbyn cyngor ar leddfu poen ac, os yw'n briodol, yn cael apwyntiad yn y lleoliad brys mwyaf priodol ar gyfer eich problem, a all fod yn Ddeintydd Gofal Sylfaenol, Deintydd Cymunedol neu Ysbyty Deintyddol y Brifysgol.
Nid yw’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn darparu gwasanaeth brys 24 awr ac mae ar gau gyda’r nos, ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
Merthyr a Rhondda Cynon Taf:
0300 123 5060 neu 01685 722803
Ardaloedd eraill gan gynnwys Gwent:
0845 60 10 128 neu 01633 488 389