Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth i'r digartref

Seeking human kindness

Y Gwasanaethau, Elusennau a Hosteli sydd ar gael

 

Gwasanaethau cyfnewid nodwyddau

Pwy: fferyllwyr neu ddarparwyr gwasanaethau arbenigol

Beth: Gwasanaeth sy’n darparu offer di-haint, dull gwaredu offer miniog, addysg am arfer chwistrellu diogel a chyngor ar leihau niwed i ddefnyddwyr cyffuriau IV nad ydynt yn barod i roi’r gorau iddi. Mae pawb sy’n defnyddio gwasanaethau cyfnewid nodwyddau hefyd yn cael pecyn naloxone yn cynnwys hyfforddiant ar sut i’w ddefnyddio.

Ble:

TAITH - 98 Neville Street

CAU - Uned Angove (DATT), Stryd Longcross

Canolfan Huggard - Heol Hansen CF10 5DW

Fferyllfa Heol Woodville

Boots Heol Albany 

Pearn’s pharmacies (Tremorfa a Threlái)

Fferyllfa Caerau Lane 

Boots Canol Caerdydd

Fferyllfa Llaneirwg

Fferyllfa The Murch 

Fferyllfa Park Crescent

Fferyllfa’r Rhws

Boots Heol Holton

Boots Heol Windsor

Boots Heol Boverton

Sut i gysylltu â ni:

Rheolwr cyfnewid nodwyddau yng nghanolfan Huggard: 029206420014

Mae rhestr lawn o fanylion cyswllt ar gyfer pob un o’r fferyllfeydd ar gael yn <https://cavuhb.nhs.wales/ein-gwasanaethau/iechyd-meddwl-old/a-z-of-mental-health-services/substance-misuse/needle-exchange/>

 

Canolfan Huggard

Mae Huggard yn elusen a dyma brif ganolfan Cymru ar gyfer pobl sy’n cysgu allan ar y strydoedd yng Nghaerdydd. Ers Rhagfyr 1988, maent wedi bod yn darparu help ymarferol i bobl sy’n ddigartref ac yn agored i niwed.  

Mae’r Hwb Ymyrraeth Gritigol yn Heol Hansen ar agor 24/7 a gall unrhyw yn alw heibio i gael diod boeth a phryd o fwyd, yn ogystal â chawod, neu i olchi eu dillad, hyd yn oed i newid eu dillad.

Mae’r Hwb Ymyrraeth Gritigol yn cynnwys ein Canolfan Ymyrraeth Gritigol, sydd ar agor yn ystod y dydd, ein hostel a llety brys.  

Maent yn anelu at roi’r urddas a’r preifatrwydd maent yn eu haeddu i bawb sy’n aros yn ein Hostel.  Dyma’r rheswm pam mae gennym 18 ystafell sengl, a 2 ar gyfer cyplau, y mae pob ohonynt yn cynnwys cyfleusterau en-suite. 

Maent hefyd yn rheoli  14 o dai a rennir ar draws y ddinas lle caiff 53 o bobl, sydd wedi bod yn ddigartref, eu cefnogi i fyw ar sail fwy parhaol.

Er eu bod yn darparu noddfa, eu nod yw helpu pobl sy’n cysgu allan i ailadeiladu eu bywydau ac i adael y strydoedd am byth.  Nid diwedd y daith yw’r Hwb Ymyrraeth Gritigol, ond dechrau’r daith.   

Bydd pawb sy’n defnyddio eu Hostel, neu sy’n byw yn un o’u tai, yn cael Gweithiwr Cymorth, a fydd yn gweithio gyda nhw i ddatblygu eu “Cynllun Cymorth Unigol”.

Mae eu tîm penodedig yn gweithio’n agos gyda’n nyrsys digartrefedd a meddygon teulu i helpu pobl sy’n cysgu allan i gael y cymorth meddygol priodol.

Gwefan: www.huggard.org.uk 

Cyfeiriad: Canolfan Huggard, Adeiladau Huggard, Heol Hansen, Caerdydd, CF10 5DW

Ar gyfer sat nav defnyddiwch y cod post: CF10 5JZ

Ffôn: 029 2064 2000
Ffacs: 029 2064 2025
E-bost:post@huggard.org.uk (ar gyfer ymholiadau cyffredinol - ar gyfer codi arian neu ymholiadau ynghylch rhoddion, gwelwch isod).

I gael rhagor o fanylion ar sut y gallwn godi arian i ni, neu i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gallwch gefnogi ein gwaith, cysylltwch â Tony Feasey yn tonyfeasey@huggard.org.uk

Os hoffech roi dillad neu eitemau eraill (yn cynnwys blychau/anrhegion Nadolig) tecstiwch Ellen ar 07791 467630 neu e-bostiwch ellenbryant@huggard.org.uk  

 

Salvation Army

Pwy: Elusen sy’n gweithio i gefnogi’r digartref ar draws y DU

Beth: Yng Nghaerdydd, mae’r Salvation Army yn cynnal 4 hostel (tai bywyd), y mae un ohonynt yn cynnal Rhaglen y Bont; cymorth ac allgymorth symudol i bobl sy’n byw mewn tai â chymorth; Bws Nos i’r digartref, sy’n darparu diodydd poeth a bwyd i bobl sy’n cysgu allan; menter Tai yn Gyntaf yng Nghaerdydd.

Sut i gysylltu â ni:

Mae manylion cyswllt ar gyfer pob un o’r tai bywyd ar gael o’r wefan: <https://www.salvationarmy.org.uk/map-page?near%5Bvalue%5D=CF14+3HU&near%5Bdistance%5D%5Bfrom%5D=16.09>

 

The Wallich

Pwy: Elusen sy’n gweithio ar gyfer y digartref a phobl sy’n cysgu allan, sy’n anelu at symud pobl oddi ar y stryd a’u cadw oddi ar y stryd.

Beth: Maent yn cynnal hosteli a thai â chymorth o amgylch Caerdydd, yn cynnwys hostel Syr Julian Hodge, Shoreline a gwasanaeth Croes Ffinn. Yn flaenorol, roedd Lloches Nos The Wallich hefyd yn darparu llety dros nos am ddim, fodd bynnag mae’r gwasanaeth hwn wedi cau nawr. Mae The Wallich hefyd yn cynnal tîm ymyrraeth i bobl sy’n cysgu allan.

Ble:

Canolfan The Wallich

Heol y Gadeirlan

Caerdydd

CF11 9JF

Sut i gysylltu â ni:

Ffôn: 02920 668464

Email: mail@thewallich.net

https://thewallich.com/cysylltwch-a-ni/#

 

Llamau

Pwy: Elusen sy’n gweithio gyda phobl ifanc ddigartref a menywod sy’n agored i niwed

Beth: Yn darparu llety a chymorth holistaidd i bobl sy’n agored iawn i niwed, fel pobl ifanc sy’n gadael gofal, pobl sydd wedi goroesi trais domestig, pobl sy’n gadael y carchar ac ati. Mae Llamau yn gweithio gyda’r cyngor i ddod o hyd i lety i bobl ifanc sy’n dod i gysylltiad ag opsiynau tai.

Ble:

Llamau

23 Heol y Gadeirlan

Caerdydd

CF11 9HA

Sut i gysylltu â ni:

Ffôn: 029 2023 95985

E-bost: enquiries@llamau.org.uk

 

Shelter Cymru

Pwy: Elusen pobl a chartrefi Cymru. Yn gweithio ar gyfer pobl sydd mewn angen tai drwy ddarparu cyngor tai arbenigol, annibynnol, am ddim ac ymgyrchu i oresgyn y rhwystrau sy’n atal pobl yng Nghymru rhag cael cartref boddhaol a diogel. Gall hefyd roi pobl mewn cysylltiad â darparwyr gwelyau brys, cynghorwyr dyled a thenantiaeth a mwy.

Ble:

Prif Swyddfa Shelter Cymru
25 Walter Road
Abertawe
SA1 5NN

Ceir canolfannau cyngor lleol yn Opsiynau Tai a chanolfan Llamau.

Sut i gysylltu â ni:

Llinell gymorth tai: 08000 495 495 

Cyngor ar ddyled: 08000 495 495

https://sheltercymru.org.uk/get-advice/finding-a-place-to-live/emergency-accommodation/emergency-hostels-and-night-shelters/

 

Pobl

Pwy:  darparwr tai nid-er-elw

Beth: Yn darparu cymorth i bobl sydd ag angen cymorth a nodwyd sy’n ymwneud â thai, er mwyn atal digartrefedd, ail-ymgartrefu mewn cartref newydd, helpu pobl i gael gafael ar lety mwy priodol a galluogi pobl i aros yn eu llety a’i reoli. Mae’r cymorth yn rhan o Wasanaethau Cymorth Symudol Cyffredinol Caerdydd

Ble:

Cymorth Symudol Pobl Caerdydd
Llawr Daear, Uned 3, Regents Court
Heol Nettlefold
Ffordd y Cefnfor
Caerdydd
CF24 5JQ

https://www.poblgroup.co.uk/homes-and-communities/

Sut i gysylltu â ni:

Swyddfa Pobl Caerdydd: 02920 776000

Gwneir atgyfeiriadau drwy Dîm Cymorth Symudol Caerdydd:

Ffôn: 02920 537342

E-bost: floatingsupportteam@cardiff.gov.uk

 

Tîm Allgymorth y Digartref

Pwy: tîm o nyrsys, cwnselwyr, gweithwyr allgymorth a gweithwyr cymorth

Beth: yn gweithio gyda’i gilydd gyda’r MDT a gweithwyr allweddol cleientiaid i helpu pobl sy’n cysgu allan a rhai preswylwyr mewn hosteli. Maent yn anelu at sicrhau bod pawb sy’n cysgu allan yng Nghaerdydd yn hysbys, a’u bod wedi cael gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt. Gallant helpu gyda gwiriadau lles, asesiadau tai, rhestrau aros am lety, a chysylltu â’r MDT er mwyn rhoi’r gofal personol sydd ei angen ar bobl.

Ble:

Y Ganolfan Opsiynau Tai
Heol Hansen
Caerdydd 
CF10 5BH

Sut i gysylltu â ni:

E-bost: HANR.Outreach@cardiff.gov.uk

Ffôn: ​029 2057 0715

Y tu allan i oriau: 029 2087 3900

 

Hosteli a thai â chymorth yng Nghaerdydd

 

Oedolion sengl

Canolfan Huggard - Annibynnol, anghenion cymorth uchel, (47 Tresillian Terrace, Caerdydd CF10 5DW)

Tŷ Tresillian – Cyngor Caerdydd, anghenion cymorth uchel (oddi ar heol Hansen, Ffordd Tresillian, Caerdydd CF10 5DW)

Tŷ Gobaith – Salvation Army, anghenion canolig/uchel (Tŷ Gobaith, 240 Stryd Biwt, Caerdydd CF10 5TY)

The Walk – YMCA, anghenion canolig/uchel (The Walk, Y Rhath, Caerdydd, CF24 3AG)

Oak House/The Ambassador – YMCA, (2-6 Stryd Oakfield, Caerdydd CF24 3RD)

Syr Julian Hodge – The Wallich, (52 Broadway, Caerdydd CF24 1NG)

Litchfield Court – Cyngor Caerdydd (Stryd Tudor, Caerdydd CF11 6BF)

Dyfrig House – Pobl, anghenion is (53a Fitzhamon Embankment, Caerdydd CF11 6AN)

YHA – Cyngor, (Stryd E Tyndall Caerdydd CF10 4BB)

Adams Court – United Welsh, anghenion is (N Luton Pl, Caerdydd CF24 0NA)

Yn ogystal â thai â chymorth eraill ar draws y ddinas

 

Tai i Deuluoedd

Nightingale House – Hostel i deuluoedd, Trelái

Greenfarm House – Hostel i deuluoedd, (Greenfarm Lane, Caerdydd, Gwent, CF5 4RS)

Tŷ Enfys – Tai Taff, tai â chymorth i famau a babanod (Heol Ninian, Caerdydd CF23 5EP)

Tŷ Seren – Tai Taff, tai â chymorth i famau a babanod (126 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 1YN)

Hafan - Dan arweiniad Cadwyn, mamau sengl â phlant ifanc, Trelái

 

O dan 21

Northlands - Salvation Army, (202 Heol y Gogledd, Caerdydd, CF14 3XP)

Tŷ Diogel - Salvation Army, hefyd y ganolfan ar gyfer gwasanaeth cymorth ymweld pobl ifanc (77 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Caerdydd, CF11 9AF)

Dilynwch ni