Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Alergedd, Asthma ac Ecsema Pediatrig

Asthma inhaler

Sefydlwyd yr Uned Alergedd, Asthma ac Ecsema Plant ym 1992.  Caiff atgyfeiriadau o ardal Caerdydd a Bro Morgannwg yn ogystal â De a Gorllewin Cymru.

Mae ein dull yn cynnwys amrywiaeth o weithwyr proffesiynol fel paediatregwyr, nyrsys pediatrig, dietegwyr a fferyllwyr.

Darperir gwasanaethau rheoli alergedd cynhwysfawr, gan gynnwys profion alergedd croen a gwaed. Darparwn hyfforddiant ar ddefnyddio awto-chwistrellau a Thriniaeth Cynnal Bywyd Sylfaenol, asesu techneg mewnanadlydd, profi gweithrediad yr ysgyfaint, cyngor dietegol a heriau bwyd geneuol yn ôl y gofyn. Rydym hefyd yn asesu plant sydd ag asthma, ecsema a chlwy'r gwair afreolus, yn ogystal ag alergedd bwyd.

Lleoliad

Canolfan Plant
Ysbyty Athrofaol Llandochau 
Ffordd Penlan
Llandochau
CF64 2XX
Ffôn: 029 2071 5580

Dilynwch ni