Neidio i'r prif gynnwy

Problemau Clwyf Perineol

Y perinëwm yw'r ardal o groen a chyhyr rhwng agorfa'r wain a'r anws (twll y pen ôl). 

Lawrlwythwch ein Taflen Gofal Clwyfau i gael gwybod rhagor am ofalu am eich clwyf perineol nes bydd wedi gwella.

Cymhlethdodau gyda'r perinëwm yn ystod esgor

  • Rhwyg perineol: yn ystod genedigaeth mae'r perinëwm yn estyn ac mae hyn yn gwneud y meinweoedd yn deneuach, sy'n gallu gwneud i'r ardal hon rwygo weithiau. Mae maint y rhwyg hwn yn gallu amrywio.
  • Episiotomi: episiotomi yw toriad yn y perinëwm a wneir gan eich bydwraig neu feddyg yn ystod esgor. Mae hyn yn helpu i ehangu agorfa'r wain, gan wneud mwy o le i eni'ch baban. Bydd yr episiotomi yn cael ei bwytho a bydd y pwythau hyn fel arfer yn ymddatod ymhen 10 – 15 diwrnod.

Cymhlethdodau gyda'ch clwyf perineol

Mae'r rhan fwyaf o glwyfau perineol yn gwella'n dda. Fodd bynnag, mae'n bwysig gwybod am gymhlethdodau posibl a'r arwyddion a'r symptomau canlyniadol i gadw llygad amdanynt, er mwyn rhoi gwybod i'ch bydwraig amdanynt cyn gynted â phosibl.

Hematoma

Tolchen waed yw hematoma sy'n gallu ffurfio o dan y clwyf. Gall hwn rwystro'r clwyf rhag gwella felly mae'n bwysig ei adnabod yn gynnar. Fel arfer, mae'r symptomau hyn yn amlycach yn y cyfnodau cynnar.  

Arwyddion a symptomau hematoma

  • Poen dwys
  • Methu eistedd yn syth ar y clwyf
  • Teimlo fel petaech chi'n eistedd ar bêl
  • Anhawster yn cerdded

Haint Clwyf

Mae haint yn fwy tebygol mewn clwyfau perineol oherwydd eu lleoliad. Daw haint i'r amlwg fel arfer ymhen rhyw 3 – 5 diwrnod.


Arwyddion a symptomau haint

  • Teimlo'n gyffredinol anhwylus (megis y ffliw / twymyn)
  • Poen cynyddol
  • Arogl annymunol
  • Crawn / rhedlif melyn yn dod o'r clwyf
  • Anhawster yn cerdded

Os oes gennych unrhyw un o'r symptomau hyn, siaradwch â'ch bydwraig cyn gynted â phosibl, oherwydd bydd angen archwilio'r clwyf ac efallai bydd angen ichi ddechrau cwrs o wrthfiotigau. 

Os bydd y pwythau'n datod a'r clwyf yn agor, peidiwch â chynhyrfu – prin y byddant yn ailbwytho'r clwyf ac mae fel arfer yn gwella'n dda.

Triniaeth Ffisiotherapi


Efallai bydd eich Bydwraig neu Feddyg Teulu yn eich atgyfeirio am Ffisiotherapi os byddwch wedi datblygu hematoma neu os yw'r clwyf perineol wedi torri i lawr (wedi'i heintio neu wedi ymagor). Cysylltir â chi dros y ffôn ymhen 48 awr fel arfer er mwyn trefnu apwyntiad asesu.

Mae opsiynau triniaeth bosibl yn cynnwys Laser Omega (ar gyfer clwyf sydd wedi torri i lawr) a Thon Fer â Phwls (ar gyfer hematoma).  Mae'r ddwy driniaeth yn gymharol gyflym ac ni fyddant yn achosi unrhyw boen nac anghysur i chi. 

Dilynwch ni