Mae endometriosis yn gyflwr cyffredin sy'n effeithio ar fenywod yn ystod y blynyddoedd pan allant feichiogi. Mae'n digwydd pan fydd meinwe tebyg i leinin y groth (yr endometriwm) yn glynu wrth organau yn y pelfis ac yn dechrau tyfu. Mae'r feinwe endometriaidd hon sydd allan o le, yn achosi llid yn y pelfis a all arwain at boen ac anffrwythlondeb.
Ynghyd ag achosi mislif poenus, gall endometriosis hefyd achosi:
Pa mor gyffredin yw endometriosis?
Mae endometriosis yn hynod gyffredin, yn enwedig mewn menywod â'r symptomau uchod. Mae endometriosis yn effeithio ar hyd at 2 filiwn o fenywod yn y DU, neu hyd at 1 o bob 10 menyw neu 10% o fenywod o oedran atgenhedlu! Mae'n ymddangos yn fynych ymhlith merched yn eu harddegau ond, yn aml, bydd oedi cyn cael diagnosis.
Nid yw gwir nifer y bobl ag endometriosis yn hysbys oherwydd bydd llawer o gleifion heb gael diagnosis neu nid ydynt yn ceisio cyngor meddygol, neu cânt y cyngor anghywir i helpu gyda'u symptomau.
A yw fy nghlefyd yn ysgafn, yn gymedrol neu'n ddifrifol?
Mae'r American Society of Reproductive Medicine (ASRM) (www.asrm.org) yn diffinio pedwar cam endometriosis, sef I-minimol, II-ysgafn, III-cymedrol, a IV-difrifol, yn dibynnu ar leoliad, graddau a dyfnder mewnblaniadau endometriosis; presenoldeb a difrifoldeb adlyniadau; a phresenoldeb a maint endometriomau ofarïaidd. Mae gan y rhan fwyaf o fenywod endometriosis minimol neu ysgafn, y mae mewnblaniadau arwynebol ac adlyniadau ysgafn yn eu nodweddu. Mae codenni siocled ac adlyniadau mwy difrifol yn nodweddu enodmetriosis cymedrol a difrifol. Nid yw cam yr endometriosis yn cyfateb i bresenoldeb na difrifoldeb symptomau, ac eithrio ffrwythlondeb. Po fwyaf difrifol yw'r cyflwr, y mwyaf niweidiol yw'r effaith ar ffrwythlondeb.
Rhagor o wybodaeth
|