Mae’r ffilmiau gwybodaeth iechyd canlynol wedi cael ei hadolygu gan glinigwyr a chleifion fel ei gilydd i sicrhau y gall y wybodaeth y maen nhw'n ei rhannu eich helpu chi i ddeall a rheoli'ch cyflwr. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw bryderon am eich iechyd, dylech gysylltu â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Dewiswch y dolenni perthnasol isod i wylio'r fideos.
www.diabetes.org.uk yw gwefan swyddogol Diabetes UK (yr elusen fwyaf ar gyfer diabetes) ac mae'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i'r unigolion hynny sydd â diabetes, eu teulu a/neu eu gofalwyr.