Derbyn ar gyfer Llawdriniaeth

Gwybodaeth am y Ward

Os ydych chi'n dod i mewn am lawdriniaeth, byddwch chi'n cael eich derbyn i Ward Anwen Gorllewin 3, sydd wedi'i lleoli ar lawr gwaelod Ysbyty Llandochau.

Rhif Cyswllt y Ward: 02921 824353

Paratowch ar gyfer eich llawdriniaeth drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ymprydio a roddir, cymryd/hepgor eich meddyginiaeth yn ôl y cyngor a dod â'ch meddyginiaethau gyda chi.

Rydym yn eich cynghori i ddod â dillad/dillad nos cyfforddus llac, yn ddelfrydol gyda thop sy'n agor ar y blaen, sliperi nad ydynt yn llithro a gŵn nos. Peidiwch â gwisgo unrhyw golur, farnais ewinedd na gemwaith, gan gynnwys gemwaith tyllu’r corff, fodd bynnag, os yw'n well gennych beidio â thynnu modrwy briodas, gallwn orchuddio hyn â thâp pan gewch eich derbyn.

Os ydych chi'n sâl yn ystod y pythefnos cyn y llawdriniaeth, cysylltwch â'r Nyrsys Gofal y Fron i gael cyngor gan ei bod hi'n fwy diogel gohirio'r llawdriniaeth mewn rhai achosion a gall eich atal rhag cael y llawdriniaeth wedi’i chanslo ar y diwrnod.

Cyn i Chi Ddod i Mewn

Ymprydio

Dim bwyd na gwm cnoi o hanner nos ymlaen ond gallwch yfed dŵr. Mae hyn fel bod eich stumog yn wag pan fyddwch chi'n cael yr anesthetig.

Meddyginiaeth

Cymerwch neu hepgorwch eich meddyginiaeth fel y cynghorwyd yn yn y Cyn-asesiad.

Hylendid

Cymerwch gawod neu bath cyn dod i mewn gyda sebon di-bersawr a cheisiwch osgoi unrhyw eli corff, talc neu deodorant.

Beth i Ddod Gyda Chi

Eich holl feddyginiaethau

Bag gyda phethau personol, dillad/offer nos cyfforddus a sliperi, bag toiled, dim gemwaith

Eitemau adloniant e.e. llyfr, llechen, ffôn. Os ydych chi'n mynd i wrando ar y radio/cerddoriaeth, dewch â chlustffonau fel nad ydych chi'n tarfu ar gleifion eraill.

Pan Fyddwch chi'n Cyrraedd y Ward

Pan gyrhaeddwch y ward, bydd y nyrsys yn cadarnhau eich manylion ac yn eich tywys i'ch gwely.

Gofynnir i chi newid i wisg ysbyty, bydd eich arsylwadau'n cael eu cymryd, a byddant yn mynd trwy'r cwestiynau ar y rhestr wirio cyn-lawfeddygol.

Bydd eich tîm llawfeddygol ac anesthetydd yn dod i'ch gweld i esbonio'r driniaeth, ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych a mynd trwy'r weithdrefn ganiatâd os nad yw hyn eisoes wedi'i wneud.

Pan ddaw'r amser ar gyfer eich llawdriniaeth, bydd un o'r nyrsys yn cerdded gyda chi i'r theatr neu'n mynd â chi mewn cadair olwyn os oes angen.

Ar ôl eich Llawdriniaeth

Ar ôl i chi ddychwelyd o'r theatr, bydd y nyrsys yn gwirio'ch arsylwadau a'ch clwyf yn rheolaidd. Byddan nhw hefyd yn gofyn sut rydych chi'n teimlo ac a oes gennych chi unrhyw boen neu anghysur fel y gallant roi analgesia/meddyginiaeth briodol i chi.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu mynd adref yr un diwrnod, ond bydd hyn yn dibynnu ar eich llawdriniaeth, eich lle ar restr y theatr, eich adferiad ac amgylchiadau cartref.

Cyn i chi gael eich rhyddhau, bydd y nyrs yn rhoi cyngor i chi ynghylch gofalu am eich clwyfau ac ati, gorchuddion, unrhyw feddyginiaethau sydd eu hangen ac apwyntiad i gael eich gweld yng Nghlinig y Fron, mae angen atgyfeiriad i'r Nyrsys Ardal ar rai cleifion hefyd.

Cyn -asesu

Cyn cael llawdriniaeth neu driniaeth arall, gofynnir i chi gael asesiad ymlaen llaw.

Manylion Cyswllt

Nyrs Cyn-Asesu: Claire Thomas
Rhif ffôn: 02921 825735

Bydd gennych apwyntiad yng Nghanolfan y Fron, lle bydd y canlynol yn cael ei drafod:

  • Eich iechyd cyffredinol, gweithgarwch corfforol a hanes meddygol.
  • Alergeddau a meddyginiaeth (ar bresgripsiwn a thros y cownter) a beth i'w gymryd neu ei hepgor ar ddiwrnod eich llawdriniaeth neu mewn rhai achosion ddyddiau neu wythnosau cyn hynny.
  • Llawdriniaethau ac anestheteg blaenorol gan gynnwys unrhyw broblemau rydych chi neu aelodau o'ch teulu wedi'u profi.
  • Hanes ac arferion smygu/fepio, alcohol a chyffuriau hamdden.

Byddwch hefyd yn cael eich arsylwadau, eich taldra a'ch pwysau wedi'u gwirio ac o bosibl profion gwaed ac ECG.

Asesiad Ychwanegol

Os oes gennych gyflyrau meddygol cymhleth neu niferus neu os ydych chi’n cymryd meddyginiaethau penodol, efallai y bydd angen adolygiad nodiadau arnoch neu apwyntiad gydag anesthetydd i drafod eich anesthetig, risgiau cysylltiedig a ffyrdd o leihau unrhyw risgiau cyn eich llawdriniaeth.