Neidio i'r prif gynnwy

Bronchiectasis

Swyddfa Nyrs Glinigol Arbenigol Bronciectasis: 02920 716867

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.

Pryd i weld Meddyg Teulu/gofyn am Gyngor Meddygol

Os nad ydych wedi cael diagnosis o bronciectasis yn flaenorol a’ch bod yn datblygu peswch parhaus, ewch i weld meddyg teulu am gyngor. Er nad yw peswch parhaus o reidrwydd o ganlyniad i bronciectasis, mae angen ymchwilio ymhellach iddo. 

Os ydych wedi cael diagnosis o bronciectasis yn flaenorol ac yn dechrau profi symptomau sy’n awgrymu bod gennych haint ar yr ysgyfaint, cysylltwch â’ch meddyg teulu. Fel arfer bydd angen ei drin gyda gwrthfiotigau. 

Mae rhai pobl â bronciectasis yn cael stoc o wrthfiotigau wrth gefn fel rhagofal rhag ofn iddynt ddatblygu haint ar yr ysgyfaint yn sydyn. 

Dylech weld eich meddyg teulu os byddwch yn datblygu peswch parhaus. Er nad yw hyn o reidrwydd yn cael ei achosi gan bronciectasis, mae angen ymchwilio ymhellach iddo. 

Os bydd eich meddyg teulu’n amau bod gennych bronciectasis, bydd yn eich cyfeirio atom ni am ragor o brofion ac archwiliad pellach.