Rheolir Absenoldeb Astudio yn unol â pholisi HEIW Cymru gyfan
Gan y gall dyraniad Absenoldeb Astudio amrywio o flwyddyn i flwyddyn, rydym yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r Gweinyddwr Absenoldeb Astudio i gadarnhau eich dyraniad unigol. Os ydych angen rhagor o wybodaeth, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Siobhan Griffin, Gweinyddwr Absenoldeb Astudio, YAC, Ffôn: 029 2184 2474
Diffinnir Absenoldeb Astudio fel absenoldeb a roddir at ddibenion ôl-raddedig ac a gymeradwyir gan y BIP, ac mae'n cynnwys astudio (fel arfer ond nid yn gyfan gwbl neu'n angenrheidiol ar gwrs), ymchwilio neu sefyll arholiadau.
Miss Siobhan Griffin, Gweinyddwr Absenoldeb Astudio, YAC, Ffôn: 029 2184 2474
E-bost Siobbhan.Griffin@wales.nhs.uk
Miss Abigail James, Cynorthwyydd Addysg Feddygol, YAC, Ffôn: 029 2184 6237
E-bost Abigail.James@wales.nhs.uk
Mrs Carole Gee, Dirprwy Reolwr Addysg Feddygol, YAC, Ffôn: 029 2184 6222
E-bost: Carole.Gee@wales.nhs.uk
Mae'r gweinyddwyr yn cysylltu â'r Cyfarwyddwyr Rhaglenni Sylfaen (CRhS) ynghylch materion sy'n ymwneud â cheisiadau absenoldeb astudio RhS1 a RhS2, a'r Arweinwyr Cyfadran eraill ynghylch ceisiadau eraill.
Dull o ymgeisio am absenoldeb astudio ar-lein yw'r System Rheoli Absenoldeb Astudio. Mae'r system yn caniatáu i geisiadau ar gyfer pob math o gyfnodau o absenoldeb gael eu rheoli gyda mwy o effeithlonrwydd gan fod y broses yn ddi-bapur a bod pob cyfathrebiad electronig wedi'i awtomeiddio'n llawn.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Miss Siobhan Griffin, Ffôn: 029 2184 2474, E-bost: Siobhan.Griffin@wales.nhs.uk
Dilynwch y camau hyn wrth wneud cais am absenoldeb astudio:
DS Rhaid i chi gadw at weithdrefnau adrannol ar gyfer cofnodi eich absenoldeb er mwyn sicrhau sicrwydd clinigol.
|
Hawlio Costau yn ÔlDS Ni allwch hawlio costau yn ôl am absenoldeb astudio oni bai eich bod wedi cwblhau'r broses ymgeisio ar-lein cyn i'r cwrs gael ei gynnal.
Ni dderbynnir ceisiadau annarllenadwy neu anghyflawn. |