Mae tîm olrhain cysylltiadau Caerdydd a'r Fro wedi nodi nad oes gan nifer sylweddol o bobl sy'n profi'n bositif am Covid-19 unrhyw un o'r tri symptom mwyaf cyffredin yn ystod camau cynnar yr haint.
Mae'r holl symptomau ar y rhestr estynedig yn symptomau hysbys ar gyfer coronafeirws. Lluniwyd y rhestr gan arbenigwyr iechyd cyhoeddus lleol yn seiliedig ar ymchwiliad helaeth i achosion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.