Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Clinigol Gwasanaethau Arbenigol

Mae'r Bwrdd Clinigol Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnwys saith cyfarwyddiaeth glinigol, gyda gwasanaethau clinigol ac is-arbenigeddau cysylltiedig. 

Mae'r Bwrdd Clinigol yn cynnwys nifer o feysydd hynod arbenigol yn gwasanaethu rhanbarth y De-ddwyrain a phoblogaeth Cymru gyfan yn ehangach. Yn gyffredinol, mae'r gwasanaethau hefyd yn cynnig gwasanaethau gofal eilaidd i boblogaeth leol Caerdydd a Bro Morgannwg. Ar gyfer rhai arbenigeddau, darperir gwasanaethau ar sail de Cymru a Chymru gyfan.

Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y Bwrdd Clinigol yn cael eu comisiynu'n bennaf gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) ac maent yn darparu ar gyfer y boblogaeth ranbarthol ehangach a phoblogaeth Cymru. 

Ar hyn o bryd, caiff gwasanaethau eu strwythuro trwy'r saith cyfarwyddiaeth isod:

Gwasanaethau Cardiothorasig

Mae'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cardiothorasig wedi'i lleoli'n bennaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru (gyda gwasanaethau diagnostig a chleifion allanol gofal eilaidd ychwanegol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau) ac mae'n darparu gwasanaethau cleifion mewnol, achosion dydd, diagnostig arbenigol a chleifion allanol i boblogaeth leol Caerdydd a Bro Morgannwg ac i boblogaeth ehangach de-ddwyrain Cymru.

Mae adran cleifion allanol a diagnostig bwrpasol wedi'i lleoli ar goridor Cyswllt B1-C1 Ysbyty Athrofaol Cymru, Uned Achosion Dydd Cardiaidd bwrpasol â 12 gwely, tri Labordy Cathetr Cardiaidd wedi'u comisiynu'n llawn, pedwar ward i gleifion mewnol (gan gynnwys Uned Gofal Critigol wyth gwely ac Uned Gofal Dwys Cardiaidd 14 gwely, a thair Theatr Gardiothorasig yn y Ganolfan Theatrau Cyffredinol.

Gofal Critigol

Mae'r Gyfarwyddiaeth Gofal Critigol yn darparu gwasanaethau gofal critigol i oedolion yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae'r brif uned wedi'i lleoli yn A3 a B3 yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac mae ganddi le Lefel 3 a Lefel 2 hyblyg i 31 o gleifion. Mae gan yr uned yn Ysbyty Athrofaol Llandochau le hyblyg i chwe chlaf.

Mae'r galw am Ofal Critigol yn amrywio'n sylweddol ac er bod mwyafrif y cleifion yn cael eu derbyn trwy ffrydiau brys eilaidd a thrydyddol, mae elfen o lawdriniaethau dewisol hynod gymhleth, wedi'u trefnu ymlaen llaw, sy'n digwydd ar y ddau safle ac sydd angen cymorth Gofal Critigol. Bellach, mae Uned Gofal Ôl-Anestheteg ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru sy'n gofalu am hyd at 6 o gleifion ar ôl iddynt gael llawdriniaeth ddewisol.

Hematoleg ac Imiwnoleg Glinigol

Mae'r Gyfarwyddiaeth Hematoleg ac Imiwnoleg Glinigol wedi'i lleoli'n bennaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru (gydag Uned Ddydd Hematoleg ategol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau) ac mae'n darparu gwasanaethau cleifion mewnol, triniaeth ddydd a chleifion allanol i boblogaeth leol Caerdydd a'r Fro ac i boblogaeth ehangach de-ddwyrain Cymru. Y gwasanaeth Hemategol yw'r unig Ganolfan Lefel 4 yng Nghymru.

Mae gwasanaethau Imiwnoleg Glinigol yn rhai cleifion allanol a labordy yn bennaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gyda mwyafrif y triniaethau'n cael eu darparu trwy wasanaethau trin y claf gartref. Hefyd, mae gan y ddau arbenigedd gysylltiadau agos â'r gwasanaethau pediatreg.

Mae Uned Ddydd Hematoleg bwrpasol, a ward hynod arbenigol (Hematoleg gyffredinol a'r Uned Trawsblannu Mêr Esgyrn) ar Ward B4 Hematoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Ym mis Ebrill 2015, fe wnaeth y Gwasanaethau Arbenigol gymryd rheolaeth ar Uned y Teenage Cancer Trust, sy'n darparu triniaeth i hyd at wyth o gleifion mewnol.

Geneteg Feddygol

Mae'r Gyfarwyddiaeth Geneteg Feddygol yn darparu gwasanaeth Geneteg Glinigol Cymru i'r 7 bwrdd iechyd. Mae'r gwasanaeth yn un labordy a chleifion allanol, gyda gweithlu bach, ond hynod arbenigol, o feddygon ymgynghorol a chwnselwyr geneteg. Hefyd, mae'r gyfarwyddiaeth yn rheoli gwasanaeth Hypercolesterolemia Etifeddol (FH) Cymru gyfan.

Arenneg a Thrawsblannu 

Mae'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Arenneg a Thrawsblannu wedi'i lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac mae'n darparu gwasanaethau cleifion mewnol, dialysis, diagnostig arbenigol a chleifion allanol i boblogaeth leol Caerdydd a'r Fro, a phoblogaeth ehangach de-ddwyrain Cymru.

Mae adran bwrpasol i gleifion allanol yn y Tŵr Trydyddol T1 yn Ysbyty Athrofaol Cymru a 2 ward i gleifion mewnol: Arenneg Gyffredinol (ward B5) ac Uned Drawsblannu Caerdydd yn y Tŵr Trydyddol (T5). Hefyd, mae'r Gyfarwyddiaeth yn gyfrifol am reoli'r unedau dialysis niferus ar draws rhanbarth y de-ddwyrain, ac o dan Ymddiriedolaeth Gwaed a Thrawsblannu'r GIG (NHSBT), mae gan y Gyfarwyddiaeth gontract ar y cyd â Birmingham Foundation Trust i ddarparu'r Gwasanaeth Cenedlaethol Casglu Organau (NORS) ar gyfer Cymru a de-orllewin Lloegr.

Niwrowyddorau 

Mae'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Niwrowyddorau wedi'i lleoli'n bennaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac mae'n darparu gwasanaethau cleifion mewnol, triniaeth ddydd, diagnostig arbenigol a chleifion allanol i boblogaeth leol Caerdydd a'r Fro a phoblogaeth ehangach de-ddwyrain Cymru.

Mae'r Gwasanaeth Niwroleg wedi'i leoli yn Ward C4 (gydag 8 gwely pwrpasol i gleifion mewnol, uned triniaeth ddydd 6 gwely ac uned telemetreg 2 wely).

Mae'r gwasanaeth Niwrolawdriniaeth yn cynnwys 3 ward; C4, B4 a'r ward gofal lefel uchel 18 gwely yn y Tŵr Trydyddol (T4). Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaethau rhanbarthol ar gyfer Anafiadau'r Asgwrn Cefn a Niwro-adsefydlu wedi'u lleoli yn Ysbyty Rookwood, gyda gwasanaethau i gleifion allanol a chleifion mewnol (ynghyd â therapi arbenigol).

Gwasanaeth Teclynnau a Choesau a Breichiau Artiffisial (ALAS)

Mae'r Ganolfan Teclynnau a Choesau a Breichiau Artiffisial (ALAC) wedi'i lleoli ar safle Ysbyty Rookwood, gyda chanolfan yn Nhrefforest. Mae ALAC yn darparu gwasanaethau cleifion allanol, asesu/diagnosteg arbenigol, gwasanaethau prostheteg a gwasanaeth cadeiriau olwyn i boblogaeth leol Caerdydd a'r Fro ac i boblogaeth ehangach de-ddwyrain Cymru.

 



Tîm Rheoli'r Bwrdd Clinigol 

Cyfarwyddwr y Bwrdd Clinigol — Mr Guy Blackshaw

Cyfarwyddwr Interim Gweithrediadau — Jessica Castle

Cyfarwyddwr Nyrsio — Claire Main

Pennaeth Cyllid — Chris Markall

Pennaeth y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol — Chris Markall

Dilynwch ni