Diben y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch yw rhoi cyngor i'r Bwrdd ar bob agwedd ar iechyd a diogelwch, gan gynnwys codi a chario, trais ac ymddygiad ymosodol, diogelwch yr amgylchedd a diogelwch cleifion.
Hefyd, bydd y pwyllgor yn rhoi sicrwydd i'r Bwrdd ynghylch trefniadau'r Bwrdd Iechyd Prifysgol ar gyfer sicrhau iechyd, diogelwch a lles ei holl gyflogeion a phobl y gallai gweithgareddau'n gysylltiedig â gwaith effeithio arnynt, fel cleifion, aelodau'r cyhoedd, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
Caiff rôl lawn y pwyllgor ei hamlinellu yn y Cylch Gorchwyl.
Workplan
I fynd at bapurau'r pwyllgor, cliciwch ar ddyddiad y cyfarfod perthnasol. Os hoffech ddod i'r cyfarfod fel arsyllwr, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Nathan Saunders ar 029 21 836009 neu Nathan.Saunders2@wales.nhs.uk.
Cadeirydd y Pwyllgor: Akmal Hanuk
Prif Swyddog Gweithredol: Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol
Ysgrifenyddiaeth: Nathan Saunders
Aelodau:
Akmal Hanuk
Aelod Annibynnol Undeb Llafur (i'w benodi)
Dyddiadau cyfarfod 2018/19 | Dyddiadau cyfarfod 2019/20 | Dyddiadau cyfarfod 2020 - 21 | Dyddiadau cyfarfod 2021- 22 |
---|---|---|---|
|
|