Mae Cadeirydd y Bwrdd Iechyd Kirsty Williams, y Prif Weithredwr Suzanne Rankin a chydweithwyr y Bwrdd Gweithredol wedi bod yn ystyried perfformiad a gweithgarwch dros y 12 mis diwethaf; gan fyfyrio ar yr heriau, y cyflawniadau a'n sefyllfa o ran cyrraedd cerrig milltir allweddol ein strategaeth 10 mlynedd, ‘Llunio ein Llesiant i'r Dyfodol’, sy'n nodi gweledigaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer gwella iechyd a lles y poblogaethau a wasanaethwn erbyn 2035.
Dyddiad: 14 Gorffennaf 2026
Amser: 10am
Agenda: Gellir gweld agenda'r cyfarfod drwy glicio yma.
Adroddiadau Blynyddol a Chyfrifon: Gellir gweld yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2025-26 yma (Saesneg).
Lleoliad: MS Teams. Gellir gweld recordiad o'r cyfarfod isod.
Gwnaethom groesawu cwestiynau gan aelodau'r cyhoedd, cleifion, staff a rhanddeiliaid fel rhan o'n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM).
Atebwyd y cwestiynau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.