Neidio i'r prif gynnwy
Lorna McCourt

Aelod Annibynnol - Undeb Llafur

Amdanaf i

Aelod Annibynnol - Undeb Llafur

Mae gan Lorna 40 mlynedd o brofiad o fewn y GIG. Dechreuodd ei thaith fel myfyriwr-dechnegydd fferyllfa yn Ysbyty Athrofaol Cymru ym 1985 gan symud ymlaen i fod yn Uwch Dechnegydd Fferyllfa o 2010 o fewn ochr dechnegol Fferylliaeth yn Uned Fferyllol St Marys ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (SMPU).

Ei rôl ddiweddaraf o fewn Fferylliaeth oedd Arweinydd Caffael ar gyfer Gwasanaethau Technegol, gan gwblhau Lefelau 4 i 6 yn llwyddiannus i'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi.

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae hi wedi bod yn weithgar o fewn mudiad yr Undebau Llafur ar gyfer UNSAIN gan ddatblygu i fod yn Gynrychiolydd Arweiniol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Gofal Canolraddol, a llefarydd gweithredol ar ran Ochr y Staff.

Mae ei gwaith wedi cwmpasu pob agwedd ar gynrychiolaeth staff, gweithio mewn partneriaeth ac eiriolaeth, gan sicrhau bod lleisiau cydweithwyr yn cael eu clywed a'u cefnogi.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni