Adroddiad a chynllun bioamrywiaeth

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn cyflwyno dyletswydd bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau uwch (y ddyletswydd 'adran 6') sy'n berthnasol i gyrff cyhoeddus gan gynnwys y Bwrdd Iechyd. Mae'r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Bwrdd Iechyd gyhoeddi adroddiad ar y camau y mae'n eu cymryd i gynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth o leiaf unwaith bob 3 blynedd; ac i nodi ac adolygu’n rheolaidd gynllun gweithredu bioamrywiaeth.