Neidio i'r prif gynnwy

Egwyddorion Nolan

Mae'r Pwyllgor Safonau Cyhoeddus wedi amlinellu "Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus" sy'n berthnasol i bawb mewn gwasanaeth cyhoeddus. Caiff y rhain eu datgan isod a dylai holl Aelodau'r Bwrdd eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn cael eu cymhwyso.

 
Anhunanoldeb
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu er budd y cyhoedd yn unig. Ni ddylent weithredu er mwyn cael budd ariannol neu fudd arall iddynt eu hunain, eu teuluoedd na'u cyfeillion.
Uniondeb 
Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus eu gosod eu hunain o dan unrhyw ymrwymiad ariannol nac ymrwymiad arall i unigolion neu sefydliadau allanol a allai geisio dylanwadu arnynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau swyddogol.
Gwrthrychedd 
Wrth gynnal busnes cyhoeddus, gan gynnwys gwneud penodiadau cyhoeddus, dyfarnu contractau, neu argymell unigolion ar gyfer gwobrau a buddion, dylai deiliaid swyddi cyhoeddus wneud dewisiadau ar sail rhinwedd.
Atebolrwydd
Mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol am eu penderfyniadau a'u gweithredoedd i'r cyhoedd a rhaid iddynt dderbyn unrhyw graffu a fo'n briodol i'w swyddi.
Bod yn agored
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus fod mor agored â phosibl ynglŷn â'r holl benderfyniadau a chamau gweithredu a gymerant. Dylent roi rhesymau dros eu penderfyniadau ac ni ddylent gyfyngu ar wybodaeth ac eithrio pan fo'n amlwg bod hynny er budd y cyhoedd.
Gonestrwydd
Mae dyletswydd ar ddeiliaid swyddi cyhoeddus i ddatgan unrhyw fuddiannau preifat yn gysylltiedig â'u dyletswyddau cyhoeddus a chymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro sy'n codi mewn ffordd sy'n diogelu budd y cyhoedd.
Arweinyddiaeth 
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus hyrwyddo a chefnogi'r egwyddorion hyn trwy arweiniad ac esiampl.
 
Dilynwch ni