Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Deddfwriaeth Iechyd Meddwl a Galluedd Meddyliol

Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn amlinellu'r gweithdrefnau ar gyfer cadw cleifion yn yr ysbyty, pan fo hynny'n angenrheidiol er eu hiechyd neu eu diogelwch eu hunain, neu i ddiogelu pobl eraill. Hefyd, mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth y gellir ei defnyddio i osod pobl o dan warcheidiaeth neu i ryddhau pobl o'r ysbyty i driniaeth dan oruchwyliaeth yn y gymuned.
 
Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth Iechyd Meddwl a Galluedd Meddyliol yn cynghori'r Bwrdd am unrhyw feysydd o bryder yn ymwneud â chyfrifoldebau o dan Ddeddfwriaeth Iechyd Meddwl, a byddant yn rhoi sicrwydd:

  • bod dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (y Ddeddf) a diwygiadau dilynol yn cael eu harfer yn rhesymol, yn deg ac yn gyfreithlon, gan gynnwys swyddogaethau a phrosesau rhyddhau o dan Adran 23 y Ddeddf 
  • bod darpariaethau sydd wedi'u hamlinellu yn y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) yn cael eu gweithredu a'u harfer yn rhesymol, yn deg ac yn gyfreithlon
  • bod darpariaethau a amlinellir yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 yn cael eu harfer yn rhesymol, yn deg ac yn gyfreithlon.

Hefyd, bydd yn sicrhau bod deddfwriaeth berthnasol arall, yn enwedig y Ddeddf Hawliau Dynol (1998), y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) a'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid, yn cael ei dilyn yn llawn ar gyfer pobl sy'n dod o dan Ddeddfwriaeth Iechyd Meddwl."
 
Caiff rôl lawn y Pwyllgor hwn ei hamlinellu yn ei Gylch Gorchwyl a'i Drefniadau Gweithredu.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor
 
Cadeirydd y Pwyllgor: Ceri Phillips.
Prif Swyddog Gweithredol: Prif Swyddog Gweithredu.
Ysgrifenyddiaeth: Nikki Regan
 
Aelodau:
Dave Edwards
Michael Imperato
 
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod am 10am ar y dyddiadau canlynol. I fynd at bapurau'r Pwyllgor, dewiswch ddyddiad y cyfarfod perthnasol. Os hoffech fynd i gyfarfod fel arsyllwr, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Nikki Regan ar 029 2183 6008 neu Nikki.Regan@wales.nhs.uk.

Dyddiadau cyfarfod 2018-19  Dyddiadau cyfarfod 2019- 20  Dyddiadau cyfarfod 2020-21  Dyddiadau cyfarfod 2021-22 

Cofnodion

Ewch i gofnodion wedi'u cadarnhau.

Grŵp Pŵer Rhyddhau 

Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn cyflwyno'r gweithdrefnau ar gyfer cadw cleifion yn yr ysbyty os ystyrir hynny'n angenrheidiol naill ai ar gyfer eu hiechyd neu eu diogelwch eu hunain, neu i ddiogelu pobl eraill. Hefyd, mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth y gellir ei defnyddio i osod pobl o dan warcheidiaeth neu i ryddhau pobl o'r ysbyty i driniaeth dan oruchwyliaeth yn y gymuned.
 
Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth Iechyd Meddwl yn dirprwyo'r broses ar gyfer ystyried rhyddhau cleifion o dan y Ddeddf i'r Is-grŵp Pŵer Rhyddhau. Bydd yr Is-grŵp hwn yn cyfarfod bod tri mis i ystyried p'un ai a yw'r prosesau rhyddhau yn y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn deg ac yn rhesymol, ac yn cael eu harfer yn gyfreithlon.

Dilynwch ni