Mae’r Bwrdd Iechyd yn rhoi ystyriaeth o ddifrif i’ch data, boed ar ffurf electronig neu ar bapur. Mae gennym bolisïau a rheolaethau mewnol ar waith i sicrhau na chaiff eich data ei golli, ei ddifrodi ar ddamwain, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu, ac mai dim ond cyflogeion neu sefydliadau sy’n gweithredu ar eich rhan sy’n gallu cael gafael arno, wrth gyflawni eu dyletswyddau.
Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd â phosibl er mwyn cyflawni’r dibenion ar gyfer ei gasglu, yn cynnwys at y diben o fodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifo, neu adrodd.
I bennu’r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur, a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed o ganlyniad i ddefnyddio neu ddatgelu eich data personol heb awdurdod, y dibenion ar gyfer prosesu eich data personol, a ph’un a allwn gyflawni’r dibenion hynny drwy ddull arall, a’r gofynion cyfreithiol cymwys.
Mae manylion am gyfnodau cadw ar gyfer agweddau gwahanol ar eich gwybodaeth bersonol ar gael ar y dudalen mewnrwyd Llywodraethu Gwybodaeth.
Mae’n ofynnol i’r staff i gyd gyflawni hyfforddiant yn rheolaidd i sicrhau bod yr holl staff sy’n gweithio yn y GIG yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o safbwynt trin data personol, p’un a ydynt yn gweithio yn y Bwrdd Iechyd ai peidio.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.