Caiff eich data personol ei rannu’n fewnol â’ch rheolwr llinell, rheolwyr eraill yn eich maes gwaith a’r Gweithlu a Datblygu Sefydliadol fel y bo’n briodol. Bydd amseroedd hefyd pan fydd angen eich data ar aelodau o adrannau eraill i gyflawni eu rôl eu hunain (e.e. rheolwyr adrannau sy’n derbyn gwirfoddolwyr neu weithwyr sydd wedi’u haseinio gan yr Adran Staffio Dros Dro, Iechyd Galwedigaethol, TG, arianwyr sy’n dyfarnu gwobrau teyrngarwch, a rheolwyr sy’n rhan o wrandawiad disgyblu neu gwyno sy’n eich cynnwys chi).
Gallai eich data personol hefyd gael ei rannu gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru at ddibenion recriwtio, y gyflogres a phensiwn, a chyda’r Swyddfa Gartref i gael tystysgrif nawdd (os bydd yn gymwys). Gallai eich data personol hefyd gael ei rannu gyda’r HMRC ac Asiantaeth Pensiynau’r GIG.
Ar brydiau efallai y byddwn yn rhannu eich data personol gyda thrydydd partïon eraill; er enghraifft, darparwyr ceisiadau cyfathrebu staff, lle gofynnir am eirda cyflogaeth neu os byddwch yn gofyn i ni ddarparu prawf cyflogaeth i ddarparwr morgais. Byddwn hefyd yn rhannu data personol amdanoch os bydd pryderon diogelu neu bryderon am eich addasrwydd i ymarfer e.e. DBS, yr heddlu neu gyrff proffesiynol eraill.
Caiff manylion am gyflogeion a gweithwyr sy’n ymwneud â’r Adran Staffio Dros Dro eu cofnodi ar yr ESR. Mae IBM, sy’n darparu’r ESR (y Cofnod Staff Electronig), yn gyfrifol am gynnal y system, ac mae hyn yn golygu y gallent gael mynediad at eich cofnod o bryd i’w gilydd i sicrhau bod yr ESR yn gweithio’n gywir. Hyd yn oed pan fydd hyn yn digwydd, bydd y mynediad yn gyfyngedig iawn, a bydd ond yn cael ei wneud i allu datrys unrhyw broblemau ar y system. Nid oes ganddynt yr hawl i ddefnyddio’r data hwn at eu dibenion eu hunain.
Caiff rhywfaint o wybodaeth o’r ESR ei throsglwyddo i gronfa ddata ar wahân, a elwir yn Warws Data. Caiff hyn ei ddefnyddio gan y Llywodraeth a chyrff eraill yn cynnwys y Ddeoniaeth, Gwasanaethau a Rennir. Mae’n eu galluogi i gael gafael ar wybodaeth benodol i lunio’r adroddiadau sydd eu hangen arnynt, ac y mae ganddynt hawl iddynt. Mae’n bwysig nodi, fodd bynnag, bod y wybodaeth hon yn cael ei gwneud yn ddienw cyn ei rhyddhau.
Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i fod â Chynllun Cyhoeddi, sydd ar gael ar ryngrwyd a mewnrwyd y Bwrdd Iechyd. Mae’n bosibl y bydd staff y disgwylir i bobl allu cysylltu â hwy fel rhan o’u rôl, yn cael eu henwau a’u manylion cyswllt gwaith wedi’u cyhoeddi mewn dogfennau a roddir yn y Cynllun Cyhoeddi, ac felly, ar y rhyngrwyd. Os byddai’n well gennych nad yw eich manylion yn cael eu gosod ar safle rhyngrwyd y Bwrdd Iechyd, rhowch wybod i’r Swyddog Diogelu Data yn ysgrifenedig neu dros e-bost.
Mae’n bwysig nodi y bydd eich gwybodaeth ond yn cael ei datgelu fel sy’n ofynnol o dan y gyfraith, neu i’n hasiantau/darparwyr gwasanaethau penodedig. Mae unrhyw un sy’n cael data personol amdanoch o dan ddyletswydd gyfreithiol i’w gadw’n gyfrinachol. Rydym ond yn gofyn am, yn defnyddio ac yn rhannu’r data personol sy’n angenrheidiol a dim mwy. Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data personol ac ni fyddwn yn ei rannu heb yr awdurdod cyfreithiol priodol, neu os bydd yn briodol i’r amgylchiadau, heb eich cydsyniad ar sail gwybodaeth.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.