Neidio i'r prif gynnwy

Cydsyniad

 

Nid oes angen eich cydsyniad arnom os byddwn yn defnyddio categorïau arbennig o’ch gwybodaeth bersonol yn unol â’n polisi ysgrifenedig, i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol neu i arfer hawliau penodol ym maes cyfraith gyflogaeth. Mewn amgylchiadau cyfyngedig, gallem gysylltu â chi i gael eich cydsyniad ysgrifenedig i’n galluogi i brosesu data penodol sy’n sensitif iawn. Os byddwn yn cysylltu â chi, byddwn yn rhoi manylion llawn i chi ynghylch y wybodaeth yr hoffem ei chael, a’r rheswm pam mae ei hangen arnom, er mwyn i chi allu ystyried yn ofalus a ydych am gydsynio. Dylech fod yn ymwybodol nad yw hyn yn un o amodau eich contract/telerau ymgysylltu â ni, eich bod yn cytuno ag unrhyw gais am gydsyniad gennym.

Yn yr amgylchiadau prin lle y gallech fod wedi rhoi eich cydsyniad i’r broses o gasglu, prosesu a throsglwyddo eich gwybodaeth bersonol at ddiben penodol, mae gennych yr hawl i dynnu eich cydsyniad i’r prosesu penodol hwnnw yn ôl ar unrhyw adeg. Unwaith y byddwn wedi derbyn hysbysiad eich bod wedi tynnu eich cydsyniad yn ôl, ni fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth mwyach at y diben neu’r dibenion y gwnaethoch gytuno iddynt yn wreiddiol, oni fydd gennym sail gyfreithlon arall dros wneud hynny o dan y gyfraith.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni