Neidio i'r prif gynnwy

Beth fydd yn digwydd nesaf? Fydd angen i mi roi caniatâd i fy ngwybodaeth gael ei rhannu?

Na, fyddwn ni ddim yn gofyn eich cydsyniad. Rydyn ni'n trafod y sail gyfreithiol i brosesu eich data personol ar dudalen 2.   

 

Cysylltir â chi am apwyntiad ar un o safleoedd y Bwrdd Iechyd neu efallai y bydd sesiwn galw heibio lleol y gallwch ei mynychu. Bydd angen i’r Bwrdd Iechyd gasglu rhywfaint o wybodaeth glinigol amdanoch os nad yw'r wybodaeth hon gyda’r Bwrdd yn barod e.e. a ydych chi wedi cael brechiad ffliw, neu a oes unrhyw alergeddau gyda chi. Bydd y wybodaeth hon, a’r ffaith eich bod wedi dewis cael brechiad, yn cael ei chadw ar eich cofnod meddygol ac ar System Imiwneiddio Cymru (WIS) a ddelir gan NWIS.

 

Wedi i chi gael eich brechu gallai eich Meddyg Teulu, eich awdurdod lleol neu Adran Iechyd Galwedigaethol eich cyflogwr gael gwybod am hyn. Bydd hyn yn eu helpu gyda’u rhwymedigaethau cyfreithiol i ofalu am eich iechyd, eich lles a’ch diogelwch chi, yn ogystal â iechyd, lles a diogelwch pobl eraill. At yr un diben, gallai eich Meddyg Teulu, eich awdurdod lleol neu Adran Iechyd Galwedigaethol eich cyflogwr gael gwybod os byddwch yn gwrthod cael y brechiad.

 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni